Mae Gerwyn Price wedi cyrraedd trydedd rownd Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC ar ôl curo Connor Scutt o 3-0 neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 18) – ond mae’n cyfaddef y daeth yn agos at beidio chwarae o gwbl eleni.

Daw sylwadau’r Cymro o sir Caerffili yn sgil ymateb y dorf iddo yn yr Alexandra Palace yn Llundain dros gyfnod sylweddol o amser, ac mae’n dweud nad oedd e “siŵr o fod yn mynd i chwarae yn y twrnament” y noson gynt.

Enillodd e’r twrnament heb dorf yn 2021 yn ystod cyfnod Covid-19, ac fe wisgodd e glustffonau y llynedd er mwyn osgoi sŵn y dorf.

Ond fe wnaeth e ganmol y dorf yn dilyn ei fuddugoliaeth neithiwr.

“Dechreuais i’n dda iawn, wedi cael hyd i 180, ac wedi rhyw fath o gael y dorf y tu ôl i fi ychydig bach,” meddai wrth Sky Sports.

“Roedd fy ngêm i’n bwyllog – nid fy ngêm gorau, nerfau’r rownd gyntaf, ond dw i’n hapus.

“Dw i’n ddiolchgar fy mod i wedi cael drwodd.

“Roedd y dorf yn wych.

“Roeddwn i’n troi i fyny yn yr Ally Pally fel pe bai’n llynedd ac y byddai’r dorf yn fy erbyn i, ond eleni roedden nhw’n wych.

“Roeddwn i braidd yn betrus, doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd.”