Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Brian Price, cyn-gapten rygbi Cymru a newyddiadurwr uchel ei barch, sydd wedi marw’n 86 oed.

Roedd y chwaraewr ail reng yn gapten ar dîm Casnewydd gurodd Seland Newydd yn 1963 – yr unig gêm iddyn nhw ei cholli ar y daith – a thîm Cymru enillodd y Goron Driphlyg yn 1965 a 1969.

Cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod i Awstralia a Seland Newydd yn 1966, gan chwarae yn y pedair gêm brawf.

Enillodd e 32 o gapiau dros Gymru, a daeth y cyntaf ohonyn nhw yn 1961.

Chwaraeodd e 252 o gemau i Gasnewydd.

Ar ôl ymddeol o’r maes chwarae, daeth yn newyddiadurwr uchel ei barch fel colofnydd i’r Sunday Express a phyndit i Radio Wales.

Y tu hwnt i’r byd rygbi, roedd yn athro Ymarfer Corff yn Ysgol Cil-y-coed, a chafodd ei benodi’n llywydd y gymdeithas cyn-chwaraewyr yn 2006.

Teyrngedau

Wrth dalu teyrnged, dywed Clwb Rygbi Casnewydd fod colli Brian Price yn newyddion “eithriadol o drist”, a’i fod e’n “un o’r chwaraewyr gorau i wisgo’r crys du ac oren”.

Dywed Edward Bevan, sylwebydd criced BBC Cymru sydd hefyd wedi sylwebu ar rygbi, ei fod e “wedi cael y pleser o rannu’r sylwebaeth gyda fe sawl gwaith”, a’i bod yn “bleser” gweithio gydag e.

“Roedd e hefyd yn gydweithiwr a ffrind gwych,” meddai.

Dywed Nick Webb, sylwebydd rygbi a chriced BBC Cymru, ei fod yn “gydweithiwr a chyfaill gwych ar deithiau rygbi” pan ddechreuodd e gyda’r BBC.