Bydd y gêm bêl-droed rhwng Luton a Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr yn cael ei chynnal eto yn ei chyfanrwydd, yn dilyn salwch Tom Lockyer dros y penwythnos.

Cwympodd amddiffynnwr canol Cymru i’r llawr ar ôl 65 munud o’r gêm ddydd Sadwrn (Rhagfyr 16), ar ôl cael ataliad ar y galon am yr eildro mewn saith mis.

Mae Rob Edwards, y Cymro sy’n rheoli Luton, wedi cael ei ganmol am ymateb yn gyflym i’r digwyddiad gan sicrhau bod modd i’r parafeddygon gyrraedd y cae yn brydlon er mwyn rhoi triniaeth i’r chwaraewr cyn iddo fe gael ei gludo i’r ysbyty, lle mae e bellach mewn cyflwr sefydlog.

Roedd hi’n 1-1 pan ddaeth y chwarae i ben.

Yn ôl rheolau’r gêm, mae modd ailchwarae unrhyw gêm sy’n dod i ben gyda chaniatâd y dyfarnwr.

Does dim cadarnhad eto pryd fydd y gêm yn cael ei chynnal.

Mae Luton wedi diolch i Bournemouth ac wedi eu canmol yn dilyn y digwyddiad.

Defnyddio CPR a diffibriliwr

Yn y cyfamser, mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi pwysleisio pwysigrwydd dysgu dulliau CPR a defnyddio diffibriliwr.

“Rydyn ni’n anfon ein meddyliau a’n dymuniadau gorau at Tom Lockyer, pêl-droediwr Luton, a’i deulu ar ôl ei ataliad ar y galon dros y penwythnos,” meddai’r elusen.

“Mae’n ein hatgoffa mewn modd ysgytwol fod CPR a defnyddio diffibriliwr yn gallu achub bywydau, a pham ei bod hi mor bwysig fod pawb yn dysgu sut i’w wneud e.”

 

Tom Lockyer yn wynebu rhagor o brofion cyn penderfynu ar ei ddyfodol

Cafodd amddiffynnwr Cymru ataliad ar y galon ar y cae ddydd Sadwrn (Rhagfyr 16)