Bydd Tom Lockyer, amddiffynnwr canol Cymru a Luton, yn cael rhagor o brofion cyn penderfynu ar ei ddyfodol.

Cafodd e ataliad ar y galon ddydd Sadwrn (Rhagfyr 16), wrth chwarae i Luton yn erbyn Bournemouth, a bu’n rhaid dirwyn y gêm i ben ar ôl 65 munud yn dilyn y digwyddiad, wrth i’r chwaraewyr a’r rheolwr Rob Edwards adael y cae dan deimlad.

Dyma’r eildro eleni i Lockyer fynd yn anymwybodol ar y cae yn ystod gêm, ac mae cryn amheuon bellach na fydd e’n gallu parhau i chwarae.

Mae’n dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, ac am gael rhagor o brofion cyn gwneud penderfyniad ynghylch ei ddyfodol fel pêl-droediwr.

Dywed Clwb Pêl-droed Luton y byddan nhw’n rhoi rhagor o wybodaeth pan fydd yn briodol gwneud hynny, ac wedi gofyn am breifatrwydd yn y cyfamser.

Maen nhw wedi dymuno’n dda i’r chwaraewr a’i deulu.