Mae’r seiclwraig trac Emma Finucane wedi’i henwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer 2023.

Dechreuodd y seiclwraig o Gaerfyrddin reidio pan oedd hi’n wyth oed, gyda’i chwaer iau Rosie yn Towy Riders.

Ar ôl cael ei gweld gan Dîm Seiclo Prydain, ymunodd â rhaglen yr academi yn 2018, gan ddod yn bencampwraig iau Ewrop flwyddyn yn ddiweddarach.

Roedd hi’n flwyddyn arbennig i Emma yn 2023, ddechreuodd yn llwyddiannus pan gipiodd hi bob un o’r pedwar teitl sbrint i fenywod yng Nghwpan Trac y Cenhedloedd, ac yna ennill ei Chwpan Trac y Cenhedloedd unigol gyntaf yn y sbrint.

Ar ôl ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Ewrop, daeth uchafbwynt ei gyrfa hyd yma ym mis Awst gyda’i theitl byd cyntaf ym Mhencampwriaethau Seiclo’r Byd UCI 2023, pan ddaeth y drydedd bencampwraig byd sbrint ym Mhrydain, a’r ieuengaf a hithau’n ugain oed yn unig.

‘Swrreal’

“Mae hyn yn swrreal!” meddai Emma Finucane.

“Rydw i’n gwerthfawrogi bod pobol wedi gwerthfawrogi’r hyn rydw i wedi’i wneud.

“Mae’n braf cael gwlad y tu ôl i mi, yn fy nghefnogi.

“Rydyn ni’n wlad eithaf bach ond mae cael yr angerdd hwnnw y tu ôl i ni ac i’w chael ar fy ngwisg hefyd yn bwysig iawn.”

Cafodd yr enillydd ei dewis gan feirniaid arbenigol dan gadeiryddiaeth y bencampwraig baralympaidd, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, sydd wedi ennill y wobr ei hun deirgwaith.

Roedd y beirniaid hefyd yn cynnwys Leshia Hawkins (cyn-Brif Swyddog Gweithredol Criced Cymru), Laura Kenyon (Golygydd Cynorthwyol Chwaraeon BBC Cymru Wales), Owen Lewis (Cyfarwyddwr System Chwaraeon Chwaraeon Cymru), Sue Butler (Rheolwr-Olygydd Chwaraeon BBC Cymru), yr Athro Katie Thirlaway (Deon Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a phêl-rwydrwaig a phêl-droedwraig ryngwladol Cymru Nia Jones.

‘Llawer iawn i’w edmygu’

“Mae hi wedi cael perfformiadau anhygoel eleni, yn enwedig i rywun mor ifanc,” meddai Tanni Grey-Thompson.

“Mae ei pherfformiadau unigol yn anhygoel, ac o edrych yn ôl ar hanes seiclo menywod yn y Deyrnas Unedig, mae ganddi lawer iawn i’w edmygu.

“Ac o edrych ar y dylanwad y mae gwlad fach fel Cymru wedi’i gael ar y gamp hon, mae’n wych.

“Pan welwch y cyfan ar bapur, bob mis o’r flwyddyn, mae pethau anhygoel yn digwydd yng Nghymru.

“Mae Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn ddathliad hyfryd o chwaraeon Cymru, sy’n dal i wneud yn anhygoel o dda.

“Mae chwaraeon Cymru bob amser yn cystadlu gyda’r goreuon.”

Mae Emma Finucane nawr yn ymuno â rhestr hir o enwogion chwaraeon Cymru sydd wedi ennill y wobr – y bara-athletwraig Olivia Breen; cyn-gapten rygbi Cymru, Alun Wyn Jones; enillydd medal aur Olympaidd, Jade Jones; y bocsiwr Joe Calzaghe; cyn-gapten pêl-droed Cymru, Gareth Bale; a’r seiclwr Geraint Thomas, gyflwynodd y wobr i Emma Finnucane drwy neges fideo.