Mae dau Gymro ifanc wedi cael cytundebau newydd gan Glwb Criced Morgannwg.

Mae’r chwaraewr amryddawn Ben Kellaway wedi llofnodi cytundeb tair blynedd hyd at 2026, tra bo’r wicedwr Alex Horton wedi ymestyn ei gytundeb am dymor arall.

Chwaraeodd Kellaway o Gaerdydd i’r sir am y tro cyntaf y tymor diwethaf, gan greu argraff yng Nghwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd, gan sgorio 82 heb fod allan yn ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

Sgoriodd e hanner canred a chipio tair wiced yn erbyn Swydd Warwick yng Nghastell-nedd, gan sgorio cyfanswm o 195 o rediadau a chipio 13 o wicedi yn y gystadleuaeth drwyddi draw.

Daeth ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

“Dw i’n amlwg wrth fy modd; mae wedi bod yn dymor cyntaf arbennig iawn i fi gyda’r clwb, a dw i jest wedi cyffroi’n fawr o gael parhau fy nhaith dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

“Roedd hi’n flwyddyn eithaf swrreal y llynedd.

“Byddwn i’n dweud bod y targedau wnes i eu gosod i fi fy hun yn gynnar wedi’u cyflawni’n eithaf da, ond mae gwaith i’w wneud.

“Fy ngemau cyntaf ym mhob fformat oedd uchafbwynt fy holl dymor.

“Dw i’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, ac yn gobeithio cael rhagor o gyfleoedd i gyfrannu at y tîm.”

Wicedwr ifanc addawol

Alex Horton yn cadw wiced i Glwb Criced Morgannwg

Bydd Alex Horton o Drecelyn yn aros gyda’r clwb tan o leiaf 2025 ar ôl ymestyn ei gytundeb.

Llofnododd ei gytundeb cyntaf yn 16 oed ar ôl codi drwy rengoedd yr Academi, a chwarae ei gemau cyntaf mewn gemau ugain a 50 pelawd.

Mae e wedi chwarae mewn saith gêm Rhestr A a phedair gêm ugain pelawd i’r sir, gan daro 44 heb fod allan oddi ar 25 o belenni i guro Swydd Northampton yng Nghwpan Metro Bank y tymor diwethaf.

“Dw i’n teimlo’n dda iawn,” meddai.

“Mae’n anhygoel cael llofnodi cytundeb newydd gyda Morgannwg, a dw i’n edrych ymlaen at weld beth sydd gan y tymor nesaf i’w gynnig.

“Roedd hi’n braf cael dechrau’r tymor diwethaf gyda fy ngemau cyntaf a chwarae yn y gwpan undydd, a dw i’n gobeithio parhau â hynny y tymor nesaf a chwarae rhagor o gemau i fy sir gartref.”

Ymateb Morgannwg

Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi ymateb ar ôl i Ben Kellaway ac Alex Horton lofnodi’r cytundebau.

“Mae Ben eisoes wedi mwynhau peth llwyddiant yn ei yrfa fer gyda’r clwb, ac rydyn ni wrth ein boddau ei fod e wedi llofnodi gyda’r clwb eto am y dair blynedd nesaf,” meddai.

“Bydd Ben yn cydbwyso’r brifysgol gyda’i amser gyda ni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen wrth iddo fe barhau â’i ddatblygiad yma yn y dyfodol.

“Mae’n newyddion gwych fod Alex wedi llofnodi eto am y ddwy flynedd nesaf.

“Rydyn ni’n lwcus iawn gyda’r wicedwyr sydd gyda ni yn y clwb, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld Alex yn parhau i ddatblygu ei ddoniau yma dros y blynyddoedd nesaf.”