Yn sgil rheolau newydd yng Ngwynedd, mae angen caniatâd cynllunio ers ddoe (dydd Sul, Medi 1) i droi eiddo’n llety gwyliau neu’n ail gartref.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae “argyfwng tai anferth” yn y sir.
Mae prisiau tai wedi codi’n sylweddol o ganlyniad i bobol o’r tu allan yn prynu eiddo i’w defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi, ac mae hynny’n prisio pobol leol allan o’r farchnad, ac yn golygu bod llai o eiddo ar gael.
Mae gwrthwynebwyr i’r rheolau newydd yn dweud eu bod nhw’n poeni y bydd gwerth pob eiddo yn y sir yn gostwng o ganlyniad, gan wneud eiddo’n fwy anodd i’w gwerthu.
Mae perchnogion ail gartrefi’n talu premiwm treth gyngor o 250%, ond fydd y drefn newydd ddim yn effeithio ar bobol oedd eisoes yn berchnogion cyn iddi ddod i rym, ac felly fydd dim rhaid iddyn nhw geisio caniatâd cynllunio ar gyfer eiddo gafodd ei newid yn y gorffennol.
Cynllun arloesol
Gwynedd yw’r sir gyntaf yng Nghymru i weithredu Erthygl 4, ac mae’n fwriad gan Barc Cenedlaethol Eryri ddilyn esiampl y Cyngor Sir yn yr ardaloedd hynny mae’n gyfrifol amdanyn nhw.
Ond mae gwrthwynebwyr yn bwriadu cyflwyno her gyfreithiol ar ôl codi digon o arian.
Daeth y rheolau newydd i rym dros y penwythnos, ar ôl i Lywodraeth Cymru newid rheolau cynllunio.
Bellach, mae tri dosbarth gwahanol o ran y defnydd o eiddo, sef prif gartref, ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Wrth weithredu Erthygl 4, gall awdurdodau lleol fynnu bod caniatâd cynllunio yn ei le cyn newid y defnydd o eiddo.