Mae’r cwmni gwerthwyr ceir Ron Skinner & Sons wedi ymateb yn gyhoeddus i’r tân wnaeth ddinistrio’u safle yn Nhredegar ar Awst 16.

Mewn datganiad, mae’r cwmni wedi canmol eu staff, y gwasanaethau brys a’r gymuned leol am eu cefnogaeth wrth iddyn nhw addo “ailadeiladu’n fwy ac yn well”.

Dechreuodd y tân yn hwyr y nos, ac roedd wedi cael ei ddiffodd erbyn prynhawn Sadwrn (Awst 17).

Ymatebodd tua 100 o ddiffoddwyr tân i’r alwad.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw wedi ymateb i’r tân am oddeutu 1 o’r gloch y bore, ac fe wnaethon nhw ofyn i’r cyhoedd “osgoi’r ardal ac i adael ein criwiau i ymateb yn gyflym gan atal tagfeydd traffig ychwanegol, a chloi unrhyw ffenestri a drysau”.

Erbyn tua 9 o’r gloch fore Sadwrn, roedden nhw wedi trechu’r tân ddigon er mwyn agor Parc Bryn Bach ger safle Ron Skinner & Sons.

Chafodd neb anafiadau, a chyhoeddodd y Gwasanaeth Tân eu bod nhw wedi agor ymchwiliad “wrth i’r digwyddiad symud i mewn i’r cyfnod adferiad” er mwyn darganfod beth oedd wedi achosi’r tân.

‘Diolch’

“Yn gyntaf, rydym am ddiolch i’r gwasanaethau brys am weithio’n ddiflino drwy’r nos ac oriau man y bore i gael y tân dan reolaeth,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Y peth pwysicaf yw fod neb wedi cael eu hanafu.

“Rydym hefyd am ddiolch i’n staff arbennig; rydym yn fythol ddiolchgar a balch eu bod yn rhan o deulu Skinners.

“Mae’r amser yma’n anodd iawn i bob un ohonyn nhw, ac ni allwn ddychmygu’r anhawster maen nhw’n ei brofi.

“Ond yn y cyfnod yma o anhawster, a nes inni ddychwelyd i normalrwydd, byddwn yn rhoi’r cymorth i bob un ohonyn nhw maen nhw’n ei haeddu.

“Rydym yn hynod ostyngedig yn sgil yr ymateb llethol a’r negeseuon o gefnogaeth gan gwsmeriaid, ffrindiau, busnesau ac elusennau dros y diwrnodau ers y tân.

“Mae pob un ohonyn nhw wedi cefnogi ein staff yn y cyfnod hwn o ansicrwydd.”

Mae’r cwmni’n pwysleisio bod eu canghennau eraill i gyd ar agor fel arfer, a bod pob un o’u staff yn gweithio o’r safleoedd yma wrth iddyn nhw “asesu’r ffordd ymlaen”.

“Fel y gallwch chi ddychmygu, rydym wedi’n difetha gan bopeth, ond rydym yn gwybod fod gennym ni gefnogaeth arbennig ein staff fydd yn ein helpu i ailadeiladu ein cangen yn Nhredegar i fod yn fwy ac yn well nag erioed,” meddai Philip a Mark Skinner.

Agorodd y busnes eu cangen yn Nhredegar yn ystod hydref 2001.

Pwysleisia’r cwmni eu bod nhw’n “falch i fod yn chwarae rhan fawr yn ein cymuned leol”.