Mae cymuned yn Sir Benfro wedi llwyddo i sicrhau’r bid uchaf er mwyn prynu hen gapel y pentref.
Y bwriad yw datblygu hen Gapel Bedyddwyr Bethlehem yn Nhrefdraeth, a’i droi’n Ganolfan Treftadaeth, Celfyddydau a Diwylliannol i’r dref.
Llwyddodd yr ymgyrch i godi £152,000 mewn pythefnos, gan sicrhau’r bid uchaf o £145,000 mewn arwerthiant ym Maenordy Llwyngwair yn y dref nos Wener, Awst 30.
Y weledigaeth yw creu canolfan dreftadaeth, fyddai’n hyrwyddo’r Gymraeg, hanes morwrol ac amaethyddol yr ardal a diwylliant lleol.
Yn dilyn yr arwerthiant, mae’r gymuned wedi gosod blaendal o 10%, ac er mwyn codi’r arian mae pobol wedi bod yn benthyca rhwng £3,000 a £20,000.
‘Dipyn o her’
Mae PLANED, yr elusen datblygu cymunedol lleol, wedi bod yn cefnogi’r grŵp cymunedol.
“Roedd hi yn dipyn o her i godi’r arian o fewn pythefnos, ond wedd pobol Trefdraeth yn hynod o hael ac yn weithgar o ran cysylltu gyda phobol oedd wedi cael eu codi yn y dref ac wedi mynd ymlaen yn eu gyrfaoedd – pobol gydag arian i fuddsoddi, i’w fenthyg,” meddai Cris Tomos, cydlynydd PLANED, wrth golwg360.
“[Roedd] aelodau yn cynrychioli’r grŵp cymunedol yn ffodus i gael y bid uchaf am £145,000 ac yn ymfalchïo bod ymdrech y gymuned wedi llwyddo i gadw’r capel yn eiddo i bobol Trefdraeth.”
Mae’r trigolion lleol yn frwd dros gadw’r capel dan berchnogaeth leol, yn ôl Cris Tomos.
“Mae criw bach wedi bod yn ymgyrchu, ac wedi bod yn mynd o gwmpas y dref yn holi barn, creu fideos i’w rhannu ar y safle we yn dangos y galw,” meddai wedyn.
“Hefyd, gyda sicrhau treftadaeth a threftadaeth ieithyddol ardal sydd gyda thafodiaith [ei hun], fel sydd yng Nghwm Gwaun gerllaw, mae yna eirfa benodol i’r ardal a bydd yn dda wedyn i fod yn dathlu honno, yn ogystal â threftadaeth o ran hanes y môr a hanes ffermio’r ardal.
“Bydd modd hefyd sicrhau dyfodol yr iaith.”
‘Galw am wirfoddolwyr’
Bydd gan yr ymgyrch tan ddiwedd mis Medi i sicrhau bod popeth yn ei le gyda’r cyfreithwyr i drosglwyddo’r eiddo i’r gymuned.
“Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn ni’n ffurfio cwmni budd cymunedol, sef cwmni cydweithredol wedi’i gofrestru fel cwmni gyda’r FCA yn Llundain,” meddai Cris Tomos.
“Wedyn, bydd y gymuned yn prynu’r adeilad, wedyn yn edrych i lansio ymgyrch cyfranddaliadau cymunedol, ac wedyn bydd pawb sy’n prynu cyfranddaliad yn aelodau o’r cwmni ac yn cynrychioli’r gymuned.
“Bydd yna alw allan nawr am wirfoddolwyr i ddod i helpu gyda’r gweithgareddau ailadnewyddu’r adeilad, ac yna is-bwyllgorau gweithgareddau, is-bwyllgorau masnachol, is-bwyllgor adnewyddu’r adeilad, felly bydd yna alwad am fwy o wirfoddolwyr i sicrhau bod y prosiect yn un hollol gymunedol.”
Gall pobol ddarganfod mwy o fanylion drwy fynd i wefan Canolfan Bethlehem.