Mae cymuned Trefdraeth yn Sir Benfro wedi codi £50,000 mewn wythnos gyda’r nod o brynu capel mewn arwerthiant ddydd Gwener (Awst 30).

Mae’r gymuned yn gobeithio prynu hen Gapel Bedyddwyr Bethlehem a’i agor fel Canolfan Treftadaeth, Celfyddydau a Diwylliant.

Mae angen codi £100,000 arall er mwyn cadw’r adeilad at ddefnydd cymunedol, ac mae pobol wedi bod yn benthyca rhwng £3,000 ac £20,000.

Mae trigolion lleol hefyd wedi creu fideo er mwyn dangos eu hangerdd dros y prosiect a’u cymuned.

Yn y fideo, sydd ar wefan y prosiect, mae Jean Young, organydd ola’r capel, yn sôn am ei phrofiadau a pham fod angen achub yr adeilad.

Mae’r gwirfoddolwyr bellach yn chwilio am gefnogwyr munud olaf i roi benthyg arian pontio i sicrhau bod y gymuned yn dal ei gafael ar y capel a’r festri bwysig a phoblogaidd yng nghanol y dref.

Y ganolfan

Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn neuadd goffa Trefdraeth mae’r grŵp prosiect cymunedol wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn ceisio casglu enwau i gefnogi cadw y capel at ddefnydd y gymuned.

Y weledigaeth yw creu canolfan dreftadaeth lewyrchus, arloesol a chynhwysol, gan hyrwyddo’r iaith Gymraeg, a hanes morwrol a diwylliant yn ganolog i gadw ysbryd hen Drefdraeth.

Er bod y capel yn adeilad hanesyddol pwysig yn y dref, bydd yn mynd ar werth yn yr ocsiwn ar ôl methu â sicrhau cytundeb ecsgliwsif i ganiatáu i’r gymuned brynu’r capel.

Mae’r elusen datblygu cymunedol lleol, PLANED wedi bod yn cefnogi’r grŵp cymunedol.

“Mae yna enghreifftiau gwych o fenthycwyr preifat cymunedol yng Nghymru ac o bob rhan o’r DU sydd wedi sicrhau bod adeiladau cymunedol pwysig yn cael eu cadw yn nwylo ceidwaid lleol,” meddai Cris Tomos, Cydlynydd PLANED.

“Cefnogwyd yr hen Orsaf Heddlu a’r Llys yn nhref Aberteifi gan un teulu a fenthycodd £250,000 i alluogi’r gymdeithas gydweithredol gymunedol leol, 4CG Cymru Cyf i brynu’r adeilad ar gyfer prosiect cymunedol, gweler www.facebook.com/pwllhai i brynu’r safle fel benthyciad pontio hyd nes i gynnig cyfranddaliadau cymunedol ad-dalu’r benthycwyr preifat.

“Mae’r Capel hefyd yn Llanwrtyd sydd bellach yn Ganolfan Dreftadaeth a Chelfyddydau o fewn eu hadeilad.

“Mae gan brosiect Bethlehem Trefdraeth cyfle fer iawn i brynu’r adeilad, ac os oes yna unigolion neu deuluoedd a fyddai’n dymuno cymryd rhan neu wybod mwy yna dylent gysylltu â thîm y prosiect ar yr e-bost isod.”

Gyda phrosiect Bethlehem Trefdraeth, bydd y benthycwyr cymunedol preifat yn derbyn llog cystadleuol ar eu benthyciadau a hefyd bydd benthycwyr mwy yn cael arwystl cyfreithiol ar yr adeilad.

Mae opsiwn hefyd i wneud cais am gynllun Gostyngiad Treth EIS gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i ganiatáu i drethdalwyr y Deyrnas Unedig gael rhyddhad treth o 30% ar y swm maen nhw’n ei fenthyca neu’n ei fuddsoddi.

Mae’r trefnwyr yn gofyn i bobol gysylltu os ydyn nhw’n gallu helpu, neu’n adnabod rhywun all helpu i Achub Bethlehem i’w ddefnyddio gan bobol Trefdraeth. E-bostiwch: capelbethlehem@gmail.com neu ffoniwch 07804487642.

Gall pobl ddarganfod mwy o fanylion trwy ymweld â’r gwefan gymunedol, www.canolfanbethlehem.cymru