Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Syr Keir Starmer, ar ôl i Brif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig draddodi araith yn Downing Street.

Daw’r araith ar drothwy ailagor San Steffan, wrth i’r Senedd newydd ymgynnull ar ôl gwyliau’r haf.

Yn ôl Starmer, y Ceidwadwyr sydd ar fai am y penderfyniadau fydd yn rhaid i’r Llywodraeth Lafur newydd eu gwneud yn y cyfnod seneddol newydd.

Ac mae’r Torïaid hefyd wedi’u beirniadu am y terfysgoedd ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau Awst, a hynny wrth i’r “craciau yn ein cymdeithas” gael eu hamlygu ar ôl “14 mlynedd o boblyddiaeth a methiant”.

Tlodi

Ond mae Syr Keir Starmer dan y lach am “fethu â chymryd cyfrifoldeb” am y tlodi yng Nghymru.

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae Llafur yn dewis “beio’r Torïaid tra eu bod nhw’n glynu wrthyr un ideoleg economaidd”, sef torri taliadau tanwydd y gaeaf i’r henoed a chadw’r cap budd-daliadau i ddau blentyn.

Er bod Syr Keir Starmer wedi canmol y cymunedau ddaeth ynghyd yn wyneb terfysgoedd, dywed Liz Saville Roberts ei fod e wedi gwrthod mynd i’r afael â’r hyn oedd wedi achosi’r terfysgoedd yn y lle cyntaf.

Roedd hynny, meddai, am ei fod e wedi gwrthod “darparu’r offer i drwsio tlodi yn sgil blynyddoedd o esgeulustod”.

“Fe wnaeth Llafur ymgyrchu ar neges o newid, ond daethon nhw heb ddim byd ond mwy o’r un polisïau llymder, gan beio’r Torïaid tra eu bod nhw’n glynu wrth yr un ideoleg economaidd,” meddai.

Dywed fod torri’r taliadau tanwydd a chadw’r cap dau blentyn yn “bolisïau Torïaidd wedi’u lapio â rhuban coch”.

Ychwanega y Plaid Cymru’n parhau i wthio am arian sy’n ddyledus o brosiect HS2, datganoli Ystad y Goron i Gymru, system drethu decach, y pensiynau gorau i’r sector cyhoeddus, ac arian ar sail anghenion wrth drafod setliadau ariannol rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig.

“Mae’r Torïaid wedi mynd – Llafur rŵan sy’n gyfrifol am ein hamddifadu ni o’r offer i ddod â thlodi i ben yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n bryd i Keir Starmer ddechrau cymryd cyfrifoldeb fel Prif Weinidog.”

‘Trethi uwch a rhagor o annhegwch economaidd’

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, diben araith Syr Keir Starmer oedd cyfiawnhau trethi uwch a rhagor o annhegwch economaidd.

“Doedd araith Keir Starmer heddiw’n ddim byd ond ymarfer i weithredu ei gynlluniau ar gyfer trethi uwch a rhagor o annhegwch economaidd,” meddai.

“Tra bod heriau byd-eang yn dal i fod sy’n golygu penderfyniadau anodd i wleidyddion, mae’r her fwyaf sy’n dod i lawr y lein wedi’i chreu gan Starmer a Llafur eu hunain, sef argyfwng tlodi tanwydd i bensiynwyr.

“Bydd penderfyniad cywilyddus Llafur i dorri taliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr yn gwaethygu annhegwch economaidd ac yn bwrw Cymru galetaf, o ystyried ein poblogaeth sy’n heneiddio.”