Mae cynghorydd o Went wedi disgrifio’r profiad o wylio Kamala Harris yn ennill ymgeisyddiaeth y Democratiaid ar gyfer Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau fel profiad “boncyrs”.
Aeth Nathan Yeowell, cynghorydd Llafur dros Griffithstown, i Gonfensiwn Cenedlaethol y Democratiaid yn Chicago, lle rhoddodd mawrion y byd gwleidyddol – gan gynnwys y cyn-arlywyddion Bill Clinton a Barack Obama a’r enwogion Oprah Winfrey ac actores Desperate Housewives, Eva Longoria – eu sêl bendith i’r dirprwy arlywydd presennol.
Cafodd ymgeisyddiaeth Kamala Harris ei chadarnhau yn dilyn penderfyniad Joe Biden ar yr unfed awr ar ddeg na fyddai’n brwydro am ail dymor, a chafodd y digwyddiad ei gynnal fel dathliad enfawr o’r ymgeisydd sydd wedi cael y clod am adfywio ymgyrch flinderus y Democratiaid.
‘Trydanol’
Roedd y Cynghorydd Nathan Yeowell yn Arena United Center, sy’n dal dros 20,000 o bobol ac sydd fel arfer yn gartref i dîm pêl-fasged y Chicago Bulls, ar gyfer y dathliad lle cafodd caneuon fel ‘Sweet Home Alabama’ a ‘California Love’ eu chwarae wrth i gynadleddwyr o bob talaith gyhoeddi eu pleidleisiau.
Perfformiodd y rapiwr Lil Jon ei gân fawr Turn Down for What, sy’n ffefryn yn y byd chwaraeon, er mwyn cyhoeddi enwebiad talaith Georgia.
Roedd yr aelod o Gyngor Bwrdeistref Torfaen hefyd yn bresennol ar gyfer araith Kamala Harris yn derbyn yr ymgeisyddiaeth, wrth i’r gantores P!nk a’r grŵp canu gwlad dadleuol The (Dixie) Chicks berfformio.
“Roedd yr awyrgylch ar gyfer araith Harris yn drydanol, ac aeth y dorf yn hollol boncyrs; gallech chi deimlo’r egni’n pwmpio drwy’r awditoriwm,” meddai.
“Dw i wedi bod i fwy nag ugain o gynadleddau’r Blaid Lafur, ond dw i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i’r ‘roll call’ yn y cnawd.
“Miloedd o gynadleddwyr, cymysgedd o ymgyrchwyr y blaid, gwleidyddion ac enwogion yn bloeddio, ac yn bwrw eu pleidlais fesul talaith.”
‘Uchafbwynt’
Ond yr uchafbwynt, meddai, oedd y gyn-Foneddiges.
“Siaradwr yr wythnos i fi oedd Michelle Obama,” meddai.
“A hithau’n gofalu am ei hemosiynau, gallech chi deimlo’r wefr wrth iddi ladd ar Donald Trump.
“Yn huawdl, yn bwyllog ac yn syth i’r pwynt, cafodd hi’r dorf yn bloeddio ar eu traed ac yn bloeddio am ragor.”
Gwahoddiad
Cafodd Nathan Yeowell ei wahodd yn rhinwedd ei rôl yn gyfarwyddwr ar y felin drafod Fforwm Llywodraethiant y Dyfodol y gwnaeth ei sefydlu er mwyn hyrwyddo polisïau adeiladol, a chafodd y daith ei hariannu gan y felin drafod Americanaidd PPI, oedd wedi helpu i siapio agenda polisi’r Arlywydd Bill Clinton.
Ymhlith y ffigurau eraill o’r Blaid Lafur oedd wedi mynychu mae’r ysgrifennydd cyffredinol David Evans, yr aelodau seneddol newydd Lucy Rigby (Northampton) a Mike Tapp (Dover), a’r cyn-aelod seneddol Jonathan Ashworth.
Er bod y digwyddiad llawn sêr yn ymddangos yn hollol wahanol i arferion gwleidyddion tawelach gwledydd Prydain, dywed y Cynghorydd Nathan Yeowell, fu’n gweithio i’r BBC a’r Blaid Lafur gynt, fod yna heriau tebyg yn wynebu’r ddwy wlad, a phleidiau adeiladol neu ganol-chwith.
Mae hynny’n cynnwys “twf gwleidyddiaeth boblyddol” mae’r cynghorydd yn ei disgrifio fel “Donald Trump yn amlwg yn dal gafael ar Blaid Weriniaethol yr Unol Daleithiau ac ymdrechion Nigel Farage i hawlio’i statws fel seleb-wleidydd-prociwr yma yn y Deyrnas Unedig”.
Mae Reform – Plaid Brexit gynt – wedi cael canlyniadau etholiadol calonogol yng nghadarnleoedd y Blaid Lafur, gan gynnwys Torfaen ac ardaloedd eraill yn ne Cymru, ac mae ganddyn nhw bresenoldeb bellach ar y cyngor bwrdeistref ar ôl i dri aelod annibynnol ffurfio’u grŵp cyngor cyntaf yng Nghymru.
Dywed y Cynghorydd Nathan Yeowell fod “Trump a Farage wedi tapio i mewn i bryderon go iawn dros yr economi, a diogelwch cenedlaethol a chymunedol” sydd, meddai, wedi cael eu defnyddio i greu “rhaniadau gwleidyddol mwy eithafol”.
Gwersi i’w dysgu
Dywed ei fod e wedi sylweddoli o fynychu Confensiwn Cenedlaethol y Democratiaid pa mor “unedig, eglur a phositif yw’r Democratiaid”.
“Aethon nhw i’r afael â phynciau trafod Trump yn eu hanfod, gan eu chwalu a’u hateb nhw â dadleuon llawn gobaith oedd yn pwysleisio’r angen i drigolion, yn ddynion ac yn fenywod, i ddod ynghyd i fynd i’r afael â’r materion sy’n eu hwynebu nhw gyda’i gilydd, ac nid fel unigolion ynysig neu’n daleithiau coch yn erbyn glas yn brwydro yn erbyn ei gilydd.
“Casgliad arall oedd yr angen am bleidiau adeiladol ar ddwy ochr yr Iwerydd i ateb anghenion a phryderon eu hetholwyr.
“Mae’n rhaid i’r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau a Llafur yn y Deyrnas Unedig flaenoriaethu’r argyfwng costau byw, ailgreu cymunedau lleol cryf sy’n cyd-fyw, a chyflwyno gofal iechyd mwy effeithiol o safon.”
Mae’n cydnabod ei bod hi’n hawdd credu yn ystod confensiwn o ffyddloniaid y blaid y bydd yr etholiad ym mis Tachwedd yn “hawdd ac yn slam-dunk” i Kamala Harris, ond dydy e ddim yn barod i ddarogan unrhyw beth.
“Dw i erioed wedi bod mewn digwyddiad gwleidyddol mwy llawen, ac mae’n hawdd bod yn ffwrdd-â-hi yn yr amgylchfyd hwnnw,” meddai.
“Gartref yn Griffithstown, sy’n bell iawn i ffwrdd o Chicago, ac wrth ddychwelyd i realiti, y broffwydoliaeth orau y galla i ei chynnig yw 50:50.
“Os yw hi am gael unrhyw obaith o ennill, rhaid i Harris fynd â’r egni gafodd ei greu yn Chicago yr wythnos ddiwethaf, ac ymgyrchu â phopeth sydd ganddi os yw hi am ennill.”