Mae dau o’r tri phlismon gafodd eu harestio am helpu cyn-arlywydd Catalwnia i ffoi, wedi cael eu diarddel o’u gwaith dros dro.
Ar ôl bod yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg ers refferendwm annibyniaeth 2017, dychwelodd Carles Puigdemont i’r ddinas ddechrau’r mis.
Ond yn dilyn seremoni yno, fe wnaeth e adael y ddinas ar Awst 8.
Mae plismon arall i ffwrdd o’r gwaith ar hyn o bryd, a fydd yr achos yn ei erbyn ddim yn dechrau hyd nes ei fod e’n dychwelyd.
Dydy’r tri ddim yn cael eu talu tra eu bod nhw wedi’u diarddel.
Un o’r tri yw gyrrwr y car oedd wedi cludo Carles Puigdemont allan o Barcelona, ac roedd un arall yn swyddog diogelwch wrth iddo ymddangos gerbron torf.
Daeth Salvador Illa yn arweinydd Catalwnia ar Awst 8, ac roedd Carles Puigdemont yn bresennol wrth iddo annerch torf.
Mae’r warant i arestio Puigdemont am ei ran yn refferendwm 2017 yn dal yn weithredol, ac roedd disgwyl i’r heddlu ei arestio pan ddychwelodd ddechrau’r mis.
Ond mae e bellach wedi dychwelyd i Wlad Belg.