Mae gan Reform UK dri chynghorydd lleol yng Nghymru bellach, ar ôl i aelodau annibynnol o Gyngor Torfaen symud at y blaid.

Bellach, mae’r cynghorwyr Alan Slade, Jason O’Connell a David Thomas yn cynrychioli’r blaid yn ward Llantarnam yng Nghwmbrân.

Fe wnaeth Lee Anderson, Aelod Seneddol cyntaf Reform, ymuno â nhw yn y dref ddoe (dydd Llun, Awst 19), a bu’n siarad â chefnogwyr mewn tafarn yno.

Bu’r Aelod Seneddol dros Ashfield yn ddirprwy gadeirydd ar y Blaid Geidwadol cyn symud at Reform ddechrau’r flwyddyn, ar ôl cael ei wahardd gan y Ceidwadwyr am wrthod ymddiheuro am honni bod gan Fwslemiaid “reolaeth dros” Sadiq Khan, Maer Llundain.

Cafodd David Thomas ac Alan Slade eu hethol yn gynghorwyr Annibynnol yn etholiadau lleol 2022, a Jason O’Connell mewn is-etholiad y llynedd.

‘Diwrnod hanesyddol’

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar X ar ran y tri chynghorydd, dywedodd David Thomas eu bod nhw’n gwneud y cam “ar ôl cryn feddwl ac ystyried gofalus”, a’u bod nhw’n “falch o wasanaethu” eu hetholaeth.

“Rydyn ni wedi penderfynu ymuno â Reform UK Wales, sy’n rhannu ein gweledigaeth am fath newydd o wleidyddiaeth, ac, yn y pendraw, ein helpu i gael canlyniadau gwell i’n trigolion drwy lywodraeth leol a chenedlaethol,” medden nhw.

“Byddwn ni wastad yn sefyll fyny dros bobol Llantarnam, a wastad yn rhoi pobol uwchlaw unrhyw blaid.

“Diolch yn fawr i Lee Anderson am ddod lawr a dathlu ein diwrnod.”

Dywed Lee Anderson fod ddoe’n “ddiwrnod hanesyddol”, a bod “angen” y blaid ar Gymru.

“Mae Llafur wedi siomi pobol Cymru, a byddan nhw’n gwneud hynny ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dim ond Reform UK all gwffio Llafur.”

‘Celwydd’

Mae Plaid Cymru Torfaen yn dweud bod angen is-etholiad yn Llantarnam ar unwaith, gan na wnaeth trigolion y ward bleidleisio dros Reform, ond yn hytrach dros aelodau annibynnol.

Ar bamffledi eu hymgyrchoedd yn 2022 a 2023, roedd David Thomas, Alan Slade a Jason O’Connell yn dweud eu bod nhw’n am ‘Roi Pobol Cyn Plaid’.

“Beth yn y byd ddigwyddodd i ‘Roi Pobol Cyn Plaid’?” gofynna Plaid Cymru Torfaen.

“Roedd yn gelwydd.

“Rhaid i’r tri roi’r penderfyniad yn nwylo pobol Llantarnam a sefyll mewn is-etholiad.”

‘Gwleidyddiaeth ymrannol’

Dywed Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, fod ymweliad Lee Anderson yn “ddim byd ond cyfle sinigaidd i fachu ar ei gyfle”.

“Ni ddylid rhoi lle i wleidyddiaeth ymrannol a chasineb ar unrhyw lefel o lywodraeth yng Nghymru,” meddai.

Ychwanega Philip Davies, dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a chadeirydd y blaid yng Ngwent – sy’n byw yn y ward – na wnaeth pobol bleidleisio dros gynghorwyr Reform.

“Yn ystod eu hetholiadau, fe wnaethon nhw ffỳs fawr o fod yn ‘annibynnol’,” meddai.

“Mae hyn wedi digwydd gydag etholiad y Senedd 2026 mewn golwg.

“Does wnelo hyn ddim â beth sydd orau i bobol Llantarnam o gwbl.”