Mae Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, yn galw ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i oedi cyn is-raddio Ysbyty Llanidloes.

Roedd cannoedd o bobol mewn cyfarfod cyhoeddus yn y dref ddydd Gwener (Awst 16), ac fe alwodd y gwleidydd am ymgynghoriad “ffurfiol ac ystyrlon” – rhywbeth mae’n dadlau sydd heb ddigwydd hyd yn hyn.

Dywed y byddai cynnal ymgynghoriad yn galluogi’r bwrdd iechyd i amlinellu eu cynlluniau ehangach, yr hyn mae’n ei olygu i dref Llanidloes, a mynd i’r afael â phryderon y cyhoedd a phobol broffesiynol ym maes iechyd.

“Nid yn unig y gwnaeth cannoedd o aelodau’r cyhoedd amlinellu eu pryderon ynghylch cynlluniau’r bwrdd iechyd i wneud newidiadau i ddarparu gwasanaethau yn Ysbyty Llanidloes, ond roedd hi hefyd yn amlwg o’r cyfarfod fod meddygon teulu ddoe a heddiw, a phobol broffesiynol eraill yr ardal, yn gwrthwynebu cynlluniau’r bwrdd iechyd.

“Dw i ddim yn credu bod y bwrdd iechyd wedi amlinellu eu cynigion presennol mewn ffordd ystyrlon.”

Amserlen

Yn ôl Russell George, byddai’r amserlen bresennol yn golygu bod y newidiadau’n dod i rym yn yr hydref.

“Dw i wedi mynegi fy mhryderon wrth y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, gan fy mod i’n poeni nad yw’r bwrdd iechyd wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch eu cynlluniau,” meddai.

Ymateb

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu heriau sylweddol ar draws y wlad, sydd hefyd yn cael eu teimlo yma ym Mhowys,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.

“Mae’n glir fod angen dadl eang ynghylch bywydau iach ac am wasanaethau iechyd diogel a chynaladwy ar gyfer y tymor hirach.

“Ond tra ein bod ni’n parhau â’r ddadl a’r drafodaeth ynghylch y dyfodol mwy hirdymor, mae yna rai materion hanfodol mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw yn y tymor byr.

“I’n helpu ni i sefydlogi gwasanaethau iechyd nawr, rydym yn cynnig dau newid dros dro i’r ffordd mae cleifion yn cael mynediad at wasanaethau iechyd ym Mhowys – newidiadau dros dro i oriau agor ein hunedau man anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod a newidiadau dros dro i’r model clinigol ar gyfer ein gwasanaethau cleifion mewnol yn yr ysbyty, gyda Llanidloes a Bronllys yn chwarae rhan hanfodol fel ‘unedau barod i fynd’, a’r Drenewydd ac Aberhonddu’n cael rôl bellach o ran adferiad arbenigol.”

Ychwanega’r llefarydd fod y cyfnod ymgysylltu’n para tan Fedi 8, ac y bydd yr adborth yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfod ar Hydref 10.

Yn ddiweddarach yn yr hydref, bydd y sgwrs â chleifion a chymunedau’n parhau “er mwyn ystyried siâp mwy hirdymor gwasanaethau diogel a chynaladwy”, meddai.