Mae angen deddfu i sicrhau bod gan Wenoliaid Duon le i nythu mewn adeiladau newydd, yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol.
Ers 1995, mae poblogaeth y Wennol Ddu yng Nghymru wedi gostwng 76%, a rhan o’r rheswm dros hynny yw’r diffyg llefydd iddyn nhw nythu.
Mae Gwenoliaid Duon yn nythu mewn tyllau mewn adeiladau, ac mae deiseb newydd sydd wedi’i chefnogi gan RSPB Cymru yn galw am ei gwneud hi’n ofynnol i ddatblygwyr osod Briciau Gwenoliaid Duon ar adeiladau newydd.
Math o fricsen wag â thwll ynddi i wenoliaid ac adar eraill fynd i mewn a nythu yw’r briciau gwenoliaid.
Roedd rhywfaint o ansicrwydd a fyddai’r Wennol Ddu yn cyrraedd Cymru eleni yn sgil gwanwyn oer a gwlyb, ond mae llai o’r adar yn parhau i ddod i bob rhan o’r wlad rhwng tua dechrau Mai a mis Awst.
‘Ateb syml iawn’
Cymaint yw cwymp y boblogaeth o Wenoliaid Duon yng Nghymru nes eu bod nhw bellach ar y rhestr goch ac wedi troi’n aderyn “prin iawn” yma, sy’n “achosi pryder”, yn ôl Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr RSPB Cymru.
“Mae gyda’r llywodraeth y teclynnau i wella’r sefyllfa iddyn nhw,” meddai wrth golwg360.
“Un o’r pethau pwysig, un o’r pethau sy’n ymyrryd arnyn nhw, yw colledion llefydd i fagu.
“Maen nhw’n magu mewn tai, adeiladau mawr, ac yn arferol roedden nhw’n mynd o dan y bondo, lan ar ben y welydd, tyllau…
“Ond dros amser, rydyn ni wedi colli lot o’r hen adeiladau, mae adeiladau newydd yn cael eu codi ac am resymau cynllunio mae gofyn sicrhau bod adeiladau mor effeithlon ag sy’n bosib – dydyn nhw ddim yn cynnwys y tyllau yma, llefydd i’r rhywogaeth yma fyw.
“O safbwynt sicrhau bod llefydd iddyn nhw nythu, mae’r ateb yn syml iawn. Allen ni greu’r llefydd i nythu tu mewn i ddatblygiadau newydd, sef y brics Gwenoliaid Duon – rhywbeth hawdd iawn i’w roi mewn i’r adeiladau yma er mwyn sicrhau bod yna gynefin i roi cymorth i’r aderyn.
“Mae rhai pobol yn gwneud rhywbeth fel hyn, ond does dim rhaid i ddatblygwyr na phobol sy’n adeiladu neu drwsio adeiladau sicrhau bod rhywle i’r Wennol Ddu nythu.”
Byddai’n gam hawdd, eglura Arfon Williams, gan ychwanegu nad yw’r brics yn amharu dim ar effeithlonrwydd ynni tai.
“Y tro cyntaf mae’r [Gwenoliaid Duon] yn glanio yw pan maen nhw’n dod yn ôl i fagu, ac yn aml iawn maen nhw’n magu yn yr ardal gafon nhw eu geni felly os oes prinder llefydd i fagu, mae’r boblogaeth yn disgyn,” meddai.
‘Colli cynefinoedd’
Bob diwrnod, mae’r Wennol Ddu yn bwyta tua 20,000 pry.
Dros y 50 mlynedd ddiwethaf, mae newidiadau i gynefinoedd bywyd gwyllt wedi effeithio ar niferoedd pryfed.
Rhwng 2004 a 2020, er enghraifft, bu gostyngiad o 75% yn nifer y pryfed sy’n hedfan gafodd eu canfod ar blatiau rhifau ceir.
“Y ffaith eu bod nhw’n colli shwt gymaint o gynefinoedd naturiol sy’n rhoi cartref i fywyd gwyllt, mae hynna’n cael effaith wedyn ar bethau sy’n dibynnu arnyn nhw – yn yr esiampl yma, y Wennol Ddu’n dibynnu ar y pryf bach sy’n dibynnu ar y cynefinoedd mae e wedi’i golli,” meddai Arfon Williams, gan ddweud bod angen ymateb mwy cysylltiedig er mwyn rheoli cynefinoedd yn well.
“Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, mae hwnna’n rhoi cyfle i ni weithio gyda ffermwyr, a’u hariannu, i helpu i ddatrys y broblem, y colledion bywyd gwyllt – sy’n cynnwys pethau fel hyn.
“Rhaid cael rheolau, dw i’n credu.
“Wrth i ni adeiladu mwy o dai a gwella’r stoc o dai sydd gyda ni, heb fod yna ryw fath o gyfraith sy’n gorfodi datblygwyr i sicrhau bod nhw’n cymryd sylw o fywyd gwyllt fel hyn, sa i’n credu y gwelwn ni’r math o ymateb sydd ei angen.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cael systemau cynllunio sy’n gweithio gyda bywyd gwyllt.”
Mae dros 3,800 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu hyd yn hyn.
‘Angen cymysgydd cywir o fesur’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod “angen i gynigion datblygu newydd sicrhau budd net ar gyfer bioamrywiaeth fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru a Chymru’r Dyfodol”.
“Er ein bod yn cydnabod bod briciau cyflym yn enghreifftiau da o fesurau gwella, mae perygl y gallai’r rhain gymylu’r darlun o ran buddion net priodol ehangach neu ddod yr unig bethau y gellir eu gwneud wrth gynnig datblygiad newydd.
“Mae angen i ni sicrhau bod y cymysgedd cywir o fesurau priodol yn cael eu hymgorffori yn y lle iawn, gyda budd cyngor ecolegol proffesiynol lle bo hynny’n briodol.”