Mae Plaid Cymru’n galw am ymateb gan Lafur yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig i sefyllfa swyddi’r gweithwyr yn Tata Steel.
Daw hyn ar ôl i Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fod yn ymweld â Chymru i gynnal trafodaethau ag Eluned Morgan am y tro cyntaf ers iddi ddod yn Brif Weinidog Cymru’n ddiweddar.
Dywed Starmer na all roi “gobaith ffug” i filoedd o weithwyr y cwmni dur ym Mhort Talbot sy’n wynebu diswyddiadau.
Mae disgwyl i ffwrnais chwyth olaf y dref gau fis nesaf, gyda bron i 3,000 o swyddi dan fygythiad o ganlyniad.
‘Ar y droed ôl’
“Mae Llafur wedi gwybod am gynlluniau TATA a’r colledion swyddi posib ym Mhort Talbot ers misoedd,” meddai Ann Davies.
“Ond dro ar ôl tro, maen nhw wedi bod ar y droed ôl wrth ymateb.
“Dywedodd Llywodraeth Lafur Cymru wrthym i aros am Lywodraeth Lafur yn San Steffan – gyda chynllun gwerth £3bn a gobaith newydd ar gyfer gwneud dur cynradd yng Nghymru.
“Fodd bynnag, mae’n fwy clir nawr nag erioed nad oedd unrhyw gynllun.
“Er y bydd y cyllid diweddar sydd wedi ei ryddhau drwy’r bwrdd pontio yn cynnig cymorth hanfodol i weithwyr, teuluoedd, busnesau a’r gymuned ym Mhort Talbot a’r cyffiniau, mae ymrwymiad Llafur i achub y diwydiant dur yng Nghymru yn cael ei gwestiynu’n gynyddol.
“Yn y cyfamser, dyw’r brwydro mewnol a’r newid cyson yng Ngweinidogion Llywodraeth Cymru heb fod o unrhyw gymorth i weithwyr ym Mhort Talbot.
“Tra bod Llafur yng Nghymru wedi tynnu eu sylw oddi ar y bêl, mae Plaid Cymru wedi gweithio’n gyson ac ar y cyd gyda’r gymuned ym Mhort Talbot i ddatblygu atebion creadigol a chynaliadwy.
“Rydym yn galw eto ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i ailddyblu eu hymdrechion mewn trafodaethau gyda TATA.
“Mae’r cynigion presennol ar y bwrdd ar gyfer y gwaith dur ym Mhort Talbot yn parhau i fod yn annerbyniol, ac rydym yn gwbl glir y dylid ystyried pob opsiwn, gan gynnwys gwladoli, i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddur Cymru.”
Wrth ymateb, dywed Eluned Morgan fod “y sefyllfa’n anodd”, a bod “rhaid bod yn barod ar gyfer pob opsiwn”.