Fydd cynlluniau ynni Llafur ddim yn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i gymunedau Cymru heb ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru, yn ôl Plaid Cymru.

Dywed Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, nad oedd ymweliad Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, a Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, â gorllewin Cymru wedi llwyddo i ymrwymo i gadw’r elw gaiff ei gynhyrchu o brosiectau ynni newydd i Gymru.

Fe wnaethon nhw gyfarfod ddoe (dydd Mawrth, Awst 20) ar fferm wynt ym Mhencader, er mwyn tynnu sylw at eu cynlluniau ar gyfer GB Energy a Thrydan Gwyrdd Cymru.

“Mae’n hynod siomedig gweld Eluned Morgan yn methu sefyll i fyny dros fuddiannau Cymru drwy beidio â phwyso Keir Starmer i ddatganoli Ystâd y Goron,” meddai Ann Davies.

“Byddai datganoli yn rhoi’r pwerau sydd eu hangen arnom i osod telerau datblygiadau ynni adnewyddadwy, a sicrhau bod yr elw o’n hadnoddau naturiol yn aros yma yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol y dylid datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru, yn unol â’r sefyllfa yn Yr Alban.”

Methiant Eluned Morgan i drafod yr angen

Yn ôl Ann Davies, roedd cyfle gwirioneddol ddoe (dydd Mawrth, Awst 20) i Eluned Morgan danlinellu’r angen gwirioneddol gyda Syr Keir Starmer.

“Bydd ei methiant i wneud hynny yn golygu y bydd elw o fuddsoddiadau a wnaed gan GB Energy a Thrydan Gwyrdd Cymru yn parhau i adael Cymru i’r Trysorlys a’r Frenhiniaeth,” meddai.

“Dyma arian y dylid ei gadw a’i ail-fuddsoddi yma yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r lefelau uchel o dlodi ac anghydraddoldeb sy’n wynebu ein cymunedau, a gostwng ein biliau ynni.

“Mae’n ymddangos y bydd cynlluniau ynni Llafur yn addewidion gwag i bobol gyffredin Cymru.”

Mae Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o flaendraeth a gwelyau afonydd Cymru, a mwy na 50,000 erw o dir, ac mae’r elw hwnnw’n mynd yn uniongyrchol i Drysorlys a Choron y Deyrnas Unedig.

Heb reolaeth uniongyrchol dros yr adnoddau naturiol hyn drwy ddatganoli Ystâd y Goron, bydd yr elw gaiff ei gynhyrchu o brosiectau glân newydd yn parhau i adael Cymru, yn hytrach na chael ei rannu rhwng cymunedau Cymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban, medd Plaid Cymru.

Mae Ystâd y Goron yn cynhyrchu mwy o elw nag erioed, ar ôl cyhoeddi £1.1bn o elw refeniw net, oedd £658.1m yn uwch na’r flwyddyn gynt.

Cynhyrchodd Ystâd y Goron yr Alban ddatganoledig £103.6m ar gyfer Llywodraeth yr Alban yn 2023.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Does dim newid yn ein Rhaglen Lywodraethu a’i hymrwymiad i ddatganoli Ystâd y Goron,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae ein swyddogion wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gyda chymheiriaid yn Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ar yr agenda diwygio cyfansoddiadol.

“Maen nhw hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion Ystâd y Goron i sicrhau eu bod yn ystyried pob dull o sicrhau budd i Gymru o ddatblygiadau yn y Môr Celtaidd ac mewn mannau eraill.

“Mae Trydan Gwyrdd Cymru, sy’n gweithio ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru, yn datblygu ffermydd gwynt ar ein hystâd goetir a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ynni gwyrdd mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol a sicrhau bod pobol Cymru yn elwa’n uniongyrchol o’r buddsoddiad.

“Rydyn ni’n gweithio gyda Great British Energy ac Ystâd y Goron i adnabod cyfleoedd partneriaeth a fydd o fudd i Gymru.”