Mae Age Cymru yn codi ymwybyddiaeth pobol hŷn y gallan nhw gael sgwrs er mwyn trafod sut mae modd iddyn nhw hawlio’u budd-daliadau ac arfer eu hawliau.
Mae’r elusen wedi lansio ymgyrch ‘Mwy o Arian yn eich Poced’ er mwyn cefnogi pobol hŷn sydd mewn perygl o golli’r cyfle i hawlio miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau.
Yn 2024, fe wnaethon nhw gynnal arolwg ‘Beth sy’n bwysig i chi?’, a darganfod fod bron i hanner (48%) yr ymatebwyr yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi bod yn her iddyn nhw yn ystod y flwyddyn aeth heibio.
Oherwydd hyn, mae timau Cyngor y Bartneriaeth yn annog pobol hŷn i archwilio’u holl opsiynau, hyd yn oed os nad oedden nhw’n llwyddiannus wrth hawlio yn y gorffennol.
Mae Age Cymru yn ategu ei bod hi’n werth edrych eto ar hawliadau, ac y gall fod amgylchiadau personol wedi sydd newid a bod pobol bellach yn gymwys i dderbyn rhai budd-daliadau.
Cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan
Mae’n hanfodol bellach fod pobol yn hawlio’u holl fudd-daliadau a’u hawliau, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan eu bod yn bwriadu cyfyngu Taliadau Tanwydd y Gaeaf i’r rhai sy’n hawlio Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau tebyg eraill.
Mae Credyd Pensiwn yn aml yn cael ei alw’n borth, oherwydd ei fod yn medru arwain at fathau eraill o gefnogaeth ar gyfer pobol hŷn.
Dywed Nel Price, Rheolwr Gwybodaeth a Chyngor Age Cymru, y gall “hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael wneud gwahaniaeth mor enfawr i fywydau pobol hŷn”.
“Mae’n eu galluogi i reoli eu cyllid fel y gallan nhw dalu eu biliau, a gobeithio y bydd gennych arian sbâr dros ben i gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau, neu efallai hyd yn oed fuddsoddi ychydig i mewn i wy nythu am flynyddoedd diweddarach.
“Felly, os gwelwch yn dda, os ydych chi neu berson hŷn rydych chi’n ei adnabod, yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, cysylltwch â’r Bartneriaeth fel y gallwn gael sgwrs am yr holl opsiynau allai fod ar gael.”
Astudiaeth Achos
Aeth un pâr hŷn at un o bartneriaid Age Cymru i ofyn am gymorth ariannol i addasu eu hystafell ymolchi.
Cafodd y pâr gymorth i wirio’u budd-daliadau’n llawn, er mwyn cael gwybod a oedden nhw’n gymwys ar gyfer ystod o fudd-daliadau a hawliau, gan gynnwys Credyd Pensiwn, Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Lwfans Gofalwr a thaliadau Costau Byw.
O ganlyniad, llwyddodd y pâr i gynyddu eu hincwm blynyddol i £16,346 – a bellach, maen nhw’n gallu byw’n fwy cyfforddus heb boeni am eu sefyllfa ariannol.
Mae Age Cymru yn annog pobol hŷn i gysylltu â nhw ar 0300 303 4498 er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Mae modd mynd ar wefan Age Cymru er mwyn cael gafael ar bartneriaid Age Cymru leol.