Dylid ailagor wardiau yn ysbyty Llanidloes yn hytrach nag is-raddio’r ysbyty, yn ôl un o gynghorwyr Plaid Cymru ym Mhowys.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn wynebu bwlch ariannol o £22.9m eleni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthyn nhw am greu cynllun i leihau’r bwlch hwnnw.
Byddai’r newidiadau mae’r bwrdd iechyd yn eu hawgrymu’n cynnwys:
- newidiadau dros dro i oriau agor yr uned mân anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod.
- newidiadau dros dro i’r model clinigol ar gyfer gwasanaethau cleifion mewnol ysbytai, gyda Llanidloes a Bronllys yn darparu lle fel “unedau barod i fynd adre”, a’r Drenewydd ac Aberhonddu’n darparu llefydd adfer arbenigol.
Mae ymgynghoriad ar y ddau fater ar agor tan Fedi 8.
Dywed y bwrdd iechyd y byddan nhw’n cynnal sgwrs gyda chleifion a chymunedau’n ddiweddarach yn yr hydref er mwyn ystyried dyfodol y gwasanaethau yn y tymor hir.
‘Diffyg gofalwyr’
Fodd bynnag, yn dilyn cyfarfodydd cyhoeddus yn Llanidloes a Glantwymyn, mae Elwyn Vaughan, Cynghorydd Plaid Cymru Glantwymyn, yn dweud bod angen ailagor wardiau yn Llanidloes yn hytrach na’u cau.
“Dw i’n ymwybodol fod Bwrdd Iechyd Powys yn wynebu bwlch ariannol o £22.9m eleni, a bod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthyn nhw am greu cynllun sy’n lleihau’r bwlch,” meddai.
“Maen nhw hefyd yn gwario tua £12m y flwyddyn yn talu byrddau iechyd tu allan i Bowys i ofalu am gleifion sy’n barod i fynd adre’ ond yn disgwyl am becyn gofal.
“Mae’r diffyg gofalwyr ym Mhowys yn amlwg i bawb, ac wedi gwaethygu ers Brexit.
“Mae’n ffaith hefyd bod ein poblogaeth yn heneiddio, ffactor fydd yn gwaethygu yn y blynyddoedd nesaf.
“Felly, mae’n angenrheidiol bod strategaeth hirdymor yn cael ei mabwysiadu.
“Yn sgil hynny, yn hytrach na chau wardiau a gwasanaethau yn Ysbyty Llanidloes, pam ddim ailagor wardiau sydd wedi cau dros y blynyddoedd, uwchraddio’r cyfleusterau a datblygu cyfleuster ‘stepping stone’, mynd â chleifion yn ôl o’r ysbytai mawr pell ac yn agosach at eu teuluoedd, arbed miloedd mewn taliadau i awdurdodau eraill wrth wella gwasanaethau yn ein cymunedau.”
Dywed hefyd ei fod yn deall y pwysau mawr ar y bwrdd iechyd, ond y gallai hyn fod yn awgrym “cadarnhaol ac yn ffordd ymlaen fyddai’n ennill cefnogaeth trigolion wrth helpu’r Bwrdd yn ariannol”.
“Mae hefyd yn gwbl glir bod angen adolygu’r fformiwla ariannu i Gymru er mwyn adlewyrchu ein hanghenion, fe wnaeth hyd yn oed Lord Barnett, wnaeth ddyfeisio’r system, ddweud hynny yn y 1970au ac mae angen i lywodraethau Llafur Cymru a’r Deyrnas Unedig gydweithio ar hynny.
“Does dim pwynt iddyn nhw roi pwysau ar y Bwrdd iechyd heb hefyd ddarparu cymorth ymarferol i leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus.”
Angen ymgynghoriad
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, alw ar y bwrdd iechyd i oedi cyn is-raddio Ysbyty Llanidloes.
Byddai cynnal ymgynghoriad yn caniatáu iddyn nhw amlinellu eu cynlluniau ehangach a’r hyn mae’n ei olygu i dref Llanidloes, meddai.
“Nid yn unig y gwnaeth cannoedd o aelodau’r cyhoedd amlinellu eu pryderon ynghylch cynlluniau’r bwrdd iechyd i wneud newidiadau i ddarparu gwasanaethau yn Ysbyty Llanidloes, ond roedd hi hefyd yn amlwg o’r cyfarfod fod meddygon teulu ddoe a heddiw, a phobol broffesiynol eraill yr ardal, yn gwrthwynebu cynlluniau’r bwrdd iechyd.
“Dw i ddim yn credu bod y bwrdd iechyd wedi amlinellu eu cynigion presennol mewn ffordd ystyrlon.”
”Angen dadl ehangach’
Dywed llefarydd ar ran y bwrdd iechyd fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “wynebu heriau sylweddol ar draws y wlad”, sy’n cael eu teimlo ym Mhowys hefyd.
“Mae’n glir fod angen dadl eang ynghylch bywydau iach ac am wasanaethau iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer y tymor hirach,” meddai.
“Ond tra ein bod ni’n parhau â’r ddadl a’r drafodaeth ynghylch y dyfodol mwy hirdymor, mae yna rai materion hanfodol mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw yn y tymor byr.
“I’n helpu ni i sefydlogi gwasanaethau iechyd nawr, rydym yn cynnig dau newid dros dro i’r ffordd mae cleifion yn cael mynediad at wasanaethau iechyd ym Mhowys – newidiadau dros dro i oriau agor ein hunedau man anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod a newidiadau dros dro i’r model clinigol ar gyfer ein gwasanaethau cleifion mewnol yn yr ysbyty, gyda Llanidloes a Bronllys yn chwarae rhan hanfodol fel ‘unedau barod i fynd’, a’r Drenewydd ac Aberhonddu’n cael rôl bellach o ran adferiad arbenigol.”
Dywed llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Powys y byddan nhw’n ystyried ymatebion yr ymgynghoriad cychwynnol ym mis hydref.