Mae gwaith wedi dechrau i droi hen ysgol yn Sir Ddinbych yn hwb cymunedol.
Fe wnaeth Ysgol Bryneglwys gau yn 2014.
Yn 2019, daeth criw o wirfoddolwyr ynghyd i sicrhau bod yr adeilad yn gallu cael ei ddefnyddio eto gan yr ardal.
Mae Cymdeithas Canolfan Iâl wedi penodi contractiwr i wneud y gwaith adeiladu ar yr hen ysgol ger Corwen.
Yn y pen draw, bydd y lleoliad yn cynnwys caffi, lle i gynnal digwyddiadau megis cyngherddau, a bydd ar gael i’w logi unwaith fydd y gwaith wedi’i gwblhau, medd cadeirydd y gymdeithas.
“Cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) ei ffurfio fel elusen un mater i droi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol sydd wir ei angen,” meddai Pat Downes.
“Mae wedi bod yn llawer o waith caled, ac mae cymaint o bobol wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd.
“Mae yna ymdrech tîm gwirioneddol wedi bod o amgylch y prosiect hwn.
“Mae’n amser cyffrous, nid yn unig i CCIA, ond gobeithio y bydd y pentref cyfan yn edrych ymlaen at gael y lleoliad hwn.”
Ers i’r ysgol gau yn 2014, mae plant y pentref yn mynd i Ysgol Dyffryn Iâl yn Llandegla.
Ar hyn o bryd, does dim lleoliad addas ym mhentref gwledig Bryneglwys i drigolion gwrdd a chynnal digwyddiadau cymdeithasol, gan fod y dafarn leol wedi cau ychydig flynyddoedd yn ôl.
‘Rôl hanfodol’
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn £10.95m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi deg prosiect sydd â’r nod o warchod treftadaeth Rhuthun, a lles cymunedau gwledig yn hen etholaeth Gorllewin Clwyd.
Roedd y prosiect yma’n un o’r deg oedd yn rhan o’r cais ac, o ganlyniad, mae CCIA wedi derbyn £327,000 o’r cyllid i adnewyddu’r hen ysgol.
Maen nhw hefyd wedi sicrhau £65,000 pellach gan Gronfa Fferm Wynt Clocaenog tuag at y cynllun.
“Rydym yn falch o glywed bod contractwr wedi’i benodi i gwblhau’r gwelliannau hyn sydd wir eu hangen i greu canolbwynt cymunedol ym Mryneglwys,” meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd Cyngor Sir Ddinbych.
“Mae’n gyffrous bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gallu cefnogi’r gymuned hon i gyflawni eu dyheadau.
“Mae hybiau fel hyn hefyd yn chwarae rôl hanfodol i ddod â’r preswylwyr ynghyd ac rydym yn gobeithio pan fydd y gwaith adfer wedi’i gwblhau y bydd yn ased gwerthfawr i bobl Bryneglwys.”