Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn am farn y cyhoedd am gam olaf llwybr cerdded a beicio newydd rhwng Maerdy a Stanleytown.

Maen nhw wedi lansio ymgynghoriad ar gyfer pumed cam Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach.

Bydd y llwybr 7km yn dilyn yr hen reilffordd ar hyd y cwm, ac fe fydd yn cynnwys cysylltiadau â chymunedau lleol, siopau, ysgolion a chyfleusterau hamdden.

Mae’r llwybr yn glynu at bum brif egwyddor llwybrau teithio llesol, sef ei fod yn gyfforddus, yn ddiogel, yn uniongyrchol, yn gydlynol ac yn ddeniadol.

Cafodd y llwybr ei rannu’n bum cam, gyda cham un wedi’i gwblhau ym mis Ionawr a cham dau ym mis Gorffennaf.

Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer camau tri a phedwar eu derbyn ym Mehefin, ac mae cam pedwar yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Y gobaith yw y bydd y pumed cam yn cael ei adeiladu yn nhymor y gwanwyn 2026, ond gallai hynny ddibynnu ar y cyllid sydd ar gael.

Cam bump y llwybr

Mae cam pump y llwybr yn darparu llwybr newydd ar hyd yr hen reilffordd rhwng Maerdy a Tylorstown.

Bydd y llwybr yn darparu cyswllt â Heol yr Orsaf ym Mlaenllechau, Heol Llanwynno yn Stanleytown, Canolfan Hamdden Rhondda Fach, a Meddygfa Tylorstown

Bydd cam pump tua 2.8km o hyd.

Dywed datganiad dylunio mynediad gafodd ei gyflwyno y byddai’r llwybr hwn yn gwella cysylltedd teithio llesol strategol yn Rhondda Cynon Taf.

Aeth yn ei flaen i nodi y bydd yn darparu llwybr teithio llesol mwy diogel i gymudwyr sy’n teithio i lawr y cwm, ac i ddisgyblion Ysgol Gymunedol Ferndale gael cerdded neu feicio i’r ysgol.

Wrth adeiladu cam pump, medd y datganiad, maen nhw’n cydnabod sensitifrwydd yr amgylchedd naturiol trwy gadw at y mesurau lliniaru a gwella bioamrywiaeth.

Bydd y gwaith safle yn cael ei gynllunio i leihau’r effaith ar drigolion a busnesau lleol.

Cynllun lleoliad cam pump y llwybr