Fydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd ddim yn gwneud elw am dair blynedd.

Daw’r newyddion ryw chwe wythnos ar ôl i’r orsaf ailagor am y tro cyntaf ers 2015.

Wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yr amcangyfrifon diweddaraf yn rhagweld y bydd costau rhedeg yr orsaf yng Nghaerdydd yn fwy na’r incwm fydd yn cael ei gynhyrchu.

Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru’n gorfod talu mwy o arian tuag at gostau rhedeg yr orsaf.

“Mae’r orsaf yn cael ei rhedeg gan Drafnidiaeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru wrth ymateb i’r cais rhyddid gwybodaeth.

“Maen nhw’n gweithio’n galed mewn nifer o ffyrdd i sicrhau’r incwm refeniw masnachol mwyaf i’r orsaf, gan gynnwys llogi unedau manwerthu, gwerthu gofod hysbysebu digidol a chodi ffioedd ar y gweithredwyr sy’n defnyddio’r orsaf.

“Fodd bynnag, mae’r rhagolygon diweddaraf yn dangos y bydd y gost o redeg yr orsaf yn fwy na’r incwm fydd yn dod o’r ffynonellau uchod ar ddiwedd y tair blynedd gyntaf o weithredu.”

Daw’r newyddion ryw chwe wythnos ar ôl i’r orsaf ailagor ar ôl cau 2015.

Yn ôl y cynlluniau gwreiddiol, roedd disgwyl y bydd yr orsaf newydd yn agor yn 2017.

Mae disgwyl y bydd siopau a manwerthu lleol yn agor o fewn yr orsaf ymhen y misoedd nesaf.

‘Methiant arall i’r Blaid Lafur’

“Mae’r saga ynglŷn â gorsaf bws Caerdydd yn parhau i fod yn fethiant arall i’r Blaid Lafur, un fydd yn parhau i gael effaith ar wariant cyhoeddus yng Nghymru,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n anfaddeuol i’r rhan fwyaf o bobol fod Caerdydd wedi bod heb orsaf fysiau am gymaint o amser, a nawr mae’r oedi a rheolaeth o’r lleoliad mor gostus fel nad yw’r Llywodraeth Lafur yn rhagweld creu elw.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn blaenoriaethu cael rhwydwaith drafnidiaeth sydd yn gyrru twf economaidd, drwy annog mwy o bobol yn ôl ar fysiau â chap ar brisiau tocynnau.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.