Mae Hybu Cig Cymru wedi wfftio adroddiad sy’n archwilio’r berthynas rhwng cig coch a chlefyd y siwgr.

Yn ôl y mudiad, cafodd ei brofi dro ar ôl tro fod cig coch yn bwysig ar gyfer diet cytbwys ac iach.

Cafodd yr adroddiad dan sylw ei lunio gan Brifysgol Caergrawnt, ac mae’n dadlau bod cysylltiad rhwng bwyta cig coch a risg uwch o ddatblygu clefyd y siwgr.

Cafodd casgliadau’r adroddiad eu cyhoeddi yn The Lancet Diabetes and Endocrinology ddoe (dydd Mercher, Awst 21), ond maen nhw’n gasgliadau “amrywiol a heb fod yn bendant”, yn ôl Hybu Cig Cymru.

“Yn ogystal, adroddwyd bod arbenigwyr nad ydynt yn ymwneud â’r ymchwil wedi dweud taw dim ond cysylltiad sy’n cael ei brofi, ac nid achos, ac mae’r canlyniadau’n unol ag argymhellion cyfredol ar gyfer bwyta’n iach,” medd y mudiad mewn datganiad.

‘Llawer o fuddion iechyd i bobol o bob oed’

“Mae gan gig coch, fel rhan o ddiet cytbwys a iach, os yw’r maint iawn yn cael ei fwyta, lawer o fuddion iechyd i bobol o bob oed,” meddai Catherine Smith, cadeirydd Hybu Cig Cymru.

“Dydy’r awgrymiadau a wneir yma ddim yn bendant a gall bwytawyr deimlo’n hyderus fod y rhan fwyaf o ddigon o wyddonwyr yn bositif ynghylch y cyfraniad maethol, ecolegol, amgylcheddol a moesegol sydd gan gig coch mewn cymdeithas.

“Mae cig coch heb lawer o fraster yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol, ac o’i gyfuno â chynhwysion iach eraill, mae’n cyfrannu at iechyd da fel rhan o ddiet cytbwys.

“Y ffordd symlaf o fyw yn iach yw bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd, ac mae cig coch yn un math o fwyd a all ein helpu i gael digon o’r haearn, potasiwm, magnesiwm, sinc, Fitaminau B a Fitamin D drwy gydol ein hoes.

“Yn llawn dop o’r fitaminau a mwynau hanfodol hyn, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster yn gnewyllyn iddo, ein helpu i gadw’n heini a iach drwy gydol ein hoes.

“Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi’i goginio bob wythnos fod yn ganolog i ddiet iach a chytbwys.”

Mae cig coch hefyd yn cynnwys ffosfforws, sydd ei angen i dyfu’n normal a datblygu esgyrn mewn plant, ac mae’n llawn protein, sy’n ddelfrydol pan fydd cig eidion yn cael ei ffrio’n gyflym ar ôl sesiwn yn y gampfa i helpu rhywun i ddadebru, i ddatblygu cyhyrau ac i deimlo’n llawn egni.

Mae cig coch heb lawer o fraster (cig eidion, cig oen a phorc) yn cynnwys llawer o brotein naturiol, hab fawr o halen, ac mae’n darparu amrywiaeth o fitaminau a mwynau hanfodol sy’n cynnwys Fitaminau B – B12, Niasin (B3), B6, Fitamin D a mwynau megis Haearn, Sinc a Photasiwm.

“Wrth defnyddio cynhwysion eraill yn lle cig coch, gallai pobol fod mewn perygl o golli rhai maetholion hanfodol y mae eu hangen ar y corff er mwyn cadw’n iach,” meddai Catherine Smith wedyn.

Canllawiau

Mae’r canllawiau cyfredol gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DG yn argymell ein bod yn bwyta tua 70g o gig coch y dydd, neu 500g o gig coch wedi ei goginio bob wythnos (tua 750g o gig amrwd)/5 cyfran yr wythnos.

Wrth gadw cyfrannau i faint y llaw neu becyn o gardiau, a’u cyfuno ag amrywiaeth o gynhwysion iach eraill, gall pobol fwynhau pum pryd o gig coch yr wythnos.

Hefyd, mae pobol yn cael eu cynghori i fwynhau toriadau heb lawer o fraster, defnyddio dulliau coginio iach ac ymatal rhag bwyta gormod o gig coch wedi’i brosesu.