Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn dangos arwyddion o welliant, ond mae heriau o hyd, yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Daw’r adroddiad diweddaraf yn dilyn arolygiad dilynol dirybudd o Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl.

Fis Mai 2022, cafodd yr adran, sy’n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei dynodi’n Wasanaeth sydd Angen ei Wella’n Sylweddol (SRSI).

Nod arolygiadau yw nodi methiannau gwasanaeth, er mwyn sicrhau gwelliannau ar frys, ac mae’r dyfarniad diweddaraf wedi’i wneud ar sail tystiolaeth oedd wedi arwain at arolygiad dirybudd ddwy flynedd yn ôl.

Cafodd arolygiad dilynol ei gynnal fis Tachwedd 2022, ac roedd ychydig o welliant ers yr arolygiad blaenorol.

“Gwelliannau amlwg” eleni

Yn ystod yr arolygiad diweddar, gafodd ei gynnal dros dri diwrnod yn olynol fis Ebrill/Mai eleni, roedd gwelliannau amlwg mewn perthynas â’r pryderon sylweddol gafodd eu nodi yn 2022.

Roedd y rhain yn cynnwys atgyfeirio cleifion â chyflyrau critigol a risg uchel yn amserol, a goruchwyliaeth well o’r ardal aros o gymharu â’r arolygiadau blaenorol.

Ar y cyfan, nododd yr arolygwyr ddiwylliant gwell, cynnydd mewn lefelau staffio ac arweinyddiaeth gryfach.

O ganlyniad i’r gwelliannau allweddol hyn, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi penderfynu diddymu statws SRSI yr adran.

Pryderon o hyd

Ond mae nifer o faterion sydd heb eu datrys, ac mae’r gwasanaeth yn parhau i weithredu mewn amodau heriol iawn.

Ymhlith y pryderon roedd:

  • amseroedd aros gormodol
  • prosesau annigonol
  • materion yn ymwneud â rheoli meddyginiaethau
  • gwiriadau annigonol o gyfarpar achub bywyd

Mae’r trefniadau ar gyfer goruchwylio ystafell aros yr uned wedi gwella, ac mae argyfyngau cleifion yn cael eu huwchgyfeirio a’u rheoli’n dda.

Ar y cyfan, mae’r adran yn lân ac yn daclus, gyda mesurau atal a rheoli heintiau cadarn ar waith; ac mae risgiau cyffredinol i iechyd a diogelwch yn cael eu hasesu.

Ond mae pryderon fod y pwysau a’r galw yn yr adran yn arwain at fwy o risg i’r cleifion.

Mater allweddol gafodd ei nodi yw llif cleifion gwael drwy’r ysbyty, hynny yw yr amser mae’n ei gymryd i symud cleifion drwy’r system gofal o’r adeg maen nhw’n cael eu derbyn i’r adeg maen nhw’n cael gadael yr ysbyty.

Yn ystod yr arolygiad, roedd tua 50 o gleifion bob dydd yn ddigon da i gael eu rhyddhau, ac roedd pob un o welyau’r uned yn llawn.

Ond roedd oedi cyn eu rhyddhau am wahanol resymau, yn cynnwys aros am ofal adsefydlu pellach, aros i becyn gofal gael ei roi ar waith neu aros am leoliad mewn cyfleuster gofal arall.

Roedd cleifion yn aros tua phedair awr am driniaeth yn yr adran, ac roedd ychydig yn llai na chwarter y cleifion yn aros dros 12 awr cyn cael eu gweld hyd yn oed.

Daeth yr arolygwyr i wybod fod un claf oedd wedi’i amau o fod wedi torri gwddf y forddwyd wedi aros dros ddeg awr cyn cael ei weld gan feddyg, ac nad oedd unrhyw gofnod o feddyginiaeth lleddfu poen.

Dywedodd rhai cleifion eu bod nhw wedi aros hyd at 48 awr, ac nad oedden nhw wedi cael unrhyw wybodaeth am eu cynlluniau gofal a thriniaeth.

Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth o gyfathrebu da ymhlith y staff yn ystod cyfarfodydd trosglwyddo rhwng shifftiau, ynghyd â chydberthnasau gwaith da yn yr adran a gyda staff ambiwlans.

Gwelodd yr arolygwyr ryngweithio cadarnhaol rhwng y staff a’r cleifion, gyda’r staff yn trin y cleifion ag urddas a pharch, er gwaethaf yr amodau heriol.

Roedd y staff yn sicrhau bod y cleifion yn gallu mynegi eu barn cymaint â phosibl ynglŷn â’u cynlluniau triniaeth.

Gallai’r cleifion roi adborth am y gwasanaeth, ac roedd system dda ar waith i gofnodi a rheoli cwynion.

Sicrwydd

Gofynnodd yr arolygwyr am sicrwydd ar unwaith y byddai camau’n cael eu cymryd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gwirio cyfarpar achub bywyd, rheoli meddyginiaethau, a’r gweithdrefnau a oedd ar waith i archwilio, asesu ac arsylwi ar gleifion yn rheolaidd.

Chafodd yr arolygwyr ddim sicrwydd bod y prosesau rheoli meddyginiaethau yn ddigon cadarn a diogel o ganlyniad i wallau wrth roi meddyginiaethau a threfniadau annigonol ar gyfer monitro cyflwr cleifion fel cymeriant hylif ar gyfer gosod canwlâu.

Testun pryder oedd nodi bod rhai cleifion oedd angen asesiadau risg mewn perthynas â briwiau pwysau neu gwympo wedi gorfod aros dros chwe awr ar ôl cyrraedd yr adran cyn cael yr asesiadau hyn.

O ganlyniad, doedd addasiadau ddim wedi’u gwneud yn syth ar gyfer y rheini oedd yn wynebu risg o ganlyniad i broblemau symudedd, neu eiddilwch cynyddol.

Roedd oedi yn aml cyn i gleifion gael triniaeth gan feddygon arbenigol, ac roedd hyn yn faes i’w wella gafodd ei nodi yn arolygiad blaenorol yr uned.

Testun pryder hefyd oedd nodi nad oedd cyfarpar dadebru, fel diffibriliwr mewn un ystafell, wedi cael ei archwilio ers dechrau mis Ionawr.

Brysbennu

Yn gyffredinol, roedd y lleoliad wedi gwneud gwelliannau mewn perthynas â darparu gofal meddygol amserol, a monitro.

Fodd bynnag, canfu’r arolygwyr mai dim ond tri ym mhob deg claf oedd yn cael eu brysbennu o fewn y terfyn amser cenedlaethol sy’n cael ei argymell, sef 15 munud, a bod cleifion yn aros 58 munud cyn cael eu brysbennu ar gyfartaledd.

Mae’r Arolygiaeth yn cydnabod fod galw mawr ac amseroedd aros hir mewn adrannau achosion brys yn fater cenedlaethol, ond mae’r arolygwyr yn teimlo y gallai’r gwasanaeth wneud mwy i ddarparu gofal amserol.

Mae angen gwelliannau pellach i sicrhau bod trafodaethau ynghylch Peidio â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR) yn cael eu cofnodi’n gywir, a bod y wybodaeth hon ar gael yn hawdd i’r staff.

Mae’n bwysig fod y trafodaethau hyn, a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, yn cael eu cynnal mewn ffordd sensitif ac effeithiol er mwyn parchu dymuniadau a safbwyntiau pawb dan sylw.

Roedd system rheoli cofnodion electronig cadarn ar waith yn yr adran, ond roedd rhai nodiadau cleifion nad oedden nhw’n electronig yn cael eu storio gyda’i gilydd, oedd yn cynyddu’r risg o ddryswch ymysg y staff ac oedi posibl.

Serch hynny, roedd yn gadarnhaol gweld bod gweithdrefnau uwchgyfeirio cadarn ar waith i ddiogelu cleifion sy’n gadael yr adran heb gael eu gweld neu yn erbyn cyngor meddygol, medd yr Arolygiaeth.

Ers yr arolygiad blaenorol, roedd y cyfraddau cwblhau ar gyfer hyfforddiant staff gorfodol wedi gwella, ac roedd arweinyddiaeth amlwg dda yn yr adran.

Roedd yn galonogol gweld bod lefelau staffio wedi gwella hefyd, a bod llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth.

Mae’r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun sy’n cynnwys cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu i fynd i’r afael â’r amrywiaeth eang o welliannau sydd eu hangen.

Rhaid i’r gwasanaeth sicrhau bod y mesurau gwella yn parhau ar waith a bod y prosesau a roddir ar waith yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

‘Heriau sylweddol’

“Mae’r pwysau a’r galw ar wasanaethau gofal iechyd yn parhau i greu heriau sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelsom fod y staff yn gweithio’n eithriadol o galed mewn amodau heriol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i’r cleifion.

“Mae’n galonogol gweld bod gwelliannau wedi’u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o’r adran, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach o hyd.

“Y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn galluogi’r bwrdd iechyd i ddeall yr heriau y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu yn glir, ac y bydd yn cefnogi’r camau sydd angen eu cymryd i wella.

“Byddwn yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o’r gwelliannau hynny.”