Mae cynnydd bach yn nifer y disgyblion yng Nghymru sydd wedi ennill Gradd A/7 neu uwch yn eu TGAU o gymharu â’r cyfnod cyn Covid-19, ond cwymp fach mewn graddau C/4 neu uwch.

O gymharu â 2023, mae llai wedi ennill gradd A/7 neu uwch, gradd C/4 neu uwch, a G/1 neu uwch eleni.

Cafodd 316,588 o raddau TGAU eu dyfarnu yr haf yma – mae hyn yn fwy na nag yn 2019 a 2023.

Roedd llai o gofrestriadau gan ddysgwyr ym mlwyddyn 10 ac is eleni, o’i gymharu â’r llynedd, ond mwy nag yn 2019.

Roedd 19.2% o’r graddau TGAU gafodd eu cyhoeddi yn radd A/7 neu’n uwch, roedd 62.2% yn radd C/4 neu’n uwch ac roedd 96.6% yn radd G/1 neu’n uwch.

Ar gyfer unigolion 16 oed wnaeth sefyll TGAU A* i G, roedd 6.7% o’r graddau gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 19.4% yn A* A ac 63.2% yn raddau A*C.

Mae’r canlyniadau hyn ar gyfer arholiadau gafodd eu sefyll yr haf yma – dydyn nhw ddim yn cynnwys graddau gafodd eu cyflawni gan yr un dysgwyr mewn cyfresi arholiadau blaenorol.

Mae Sara Louise Wheeler wedi bod draw yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam ar ran golwg360, ac yma mae hi’n holi un o ddisgyblion yr ysgol.


‘Llongyfarchiadau’

Mae Cymwysterau Cymru wedi llongyfarch disgyblion yng Nghymru ar ôl iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau.

“Gall eich canlyniadau eich helpu i gymryd eich cam nesaf, boed hynny’n cael swydd, dechrau prentisiaeth neu hyfforddiant, neu barhau â’ch astudiaethau yn yr ysgol neu’r coleg,” meddai’r Prif Weithredwr Philip Blaker.

“Da iawn i bawb sy’n derbyn canlyniadau.

“Mae heddiw yn garreg filltir sylweddol yn eich bywyd, ar ôl blynyddoedd o waith caled.

“Rwy’n gobeithio eich bod chi wedi cael y graddau yr oeddech yn gobeithio eu cael. Os na, peidiwch â phoeni.

“Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i chi, a phobl yn barod i’ch cefnogi, gan gynnwys trwy eich ysgol neu goleg.”