Mae Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia, wedi cwyno wrth y Goruchaf Lys am oedi cyn gweithredu’r amnest annibyniaeth.

Er bod nifer o ymgyrchwyr dros annibyniaeth eisoes yn elwa ar yr amnest, ddaeth i rym ym mis Mehefin, dydy e ddim wedi cael ei weithredu eto yn achos y cyn-arweinydd, fu’n byw’n alltud yng Ngwlad Belg am rai blynyddoedd yn dilyn refferendwm 2017.

Dychwelodd Puigdemont i Barcelona bythefnos yn ôl i annerch torf ar fore’r ddadl cyn i’r arlywydd newydd ddod i rym.

Ond fe adawodd y wlad eto’n fuan wedyn, gan ddychwelyd i Wlad Belg ac roedd disgwyl iddo fe gael ei arestio.

Mae’r barnwr wedi gwrthod gweithredu’r amnest yn achos Puigdemont, gan ddadlau nad yw’n gwarchod pobol sydd wedi’u cyhuddo neu eu hamau o achosion o gamddefnyddio arian cyhoeddus.

Mae’r gwyn am y barnwr hefyd yn ymwneud ag achos Toni Comín, un arall o weinidogion Catalwnia sydd wedi bod yn byw’n alltud.

Yn ôl cyfreithwyr, dylid fod wedi datrys y sefyllfa ddechrau mis diwethaf.