Dywed yr RSPCA y dylen nhw gael pwerau pellach i atal creulondeb i anifeiliaid.

Yn ôl yr elusen gwarchod anifeiliaid, byddai’r pwerau’n caniatáu i arolygwyr fynd at anifeiliaid a’u hachub yn gynt.

Byddai’r pwerau, fyddai’n cael eu rhoi gan Ddeddf Llesiant Anifeiliaid 2006, yn golygu bod arolygwyr yr RSPCA yn gallu:

  • cael trwyddedau archwilio annibynnol
  • mynd mewn i adeiladau tu allan ar dir preifat
  • symud anifeiliaid o sefyllfaoedd sy’n effeithio’n negyddol ar eu llesiant.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig ymysg y rhai sy’n cefnogi’r alwad.

Yn ôl Billie-Jade Thomas, Uwch Reolwr Materion Cyhoeddus yr RSPCA yng Nghymru, byddai’r newid yn golygu bod y swyddogion mewn sefyllfa well i “wneud eu dyletswyddau hollbwysig”, ac fe fyddai’n eu helpu i gyrraedd anifeiliaid yn gyflymach.

“Gydag ein staff achub mor brysur ledled y wlad ar y funud, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau o’r Senedd o bob plaid – a Llywodraeth Cymru – symud ymlaen gyda’r cynigion hyn yn ystod 200fed mlynedd yr RSPCA, wrth i ni adeiladu byd gwell i bawb,” meddai, gan ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am eu cefnogaeth.

‘Cenedl o anifail-garwyr’

Wrth lansio’r polisi, dywedodd James Evans, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn bolisi “rhesymol a radical” i adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud eisoes i atal creulondeb yn erbyn anifeiliaid yng Nghymru.

“Mae Cymru’n genedl o anifail-garwyr, ac rydyn ni’n enwog o amgylch y byd am ein cynnyrch fferm, megis cig oen,” meddai.

“Felly mae hi’n bwysicach fyth ein bod ni’n sicrhau bod anifeiliaid, mewn cartrefi ac ar ffermydd, yn cael eu hamddiffyn rhag creulondeb.”

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar ein hymrwymiad i fod yn llais i bawb yng Nghymru drwy sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i atal creulondeb yn erbyn anifeiliaid a chynnal ein henw da am reoli anifeiliaid,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y blaid yn y Senedd.