Mae grwnan y gwenyn i’w glywed unwaith eto mewn tŷ sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg ac sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar ôl i rywogaeth brin o wenyn gwyllt ddychwelyd adref i’r to yn dilyn gwaith cadwraeth hanfodol.
Cafodd y gwenyn mêl duon Cymreig eu symud gan yr arbenigwyr SwarmCatcher i ganiatáu cynnal prosiect aildoi mawr ym Mhlas yn Rhiw ym Mhen Llŷn.
Cafodd y to ei adeiladu yn 1820, pan oedd y Capten Lewis Moore Bennet wedi ailwampio ac ymestyn yr eiddo o ddau lawr i dri.
Dros y 200 mlynedd diwethaf, cafodd y to ofal a chafodd rhannau bach ohono eu trwsio, ond mae tywydd garw diweddar yn golygu ei fod wedi dirywio i’r graddau bod angen to cwbl newydd.
Cyn i’r gwaith ddechrau, roedd rhaid symud pum haid o tua 50,000 o wenyn mêl duon Cymreig oedd yn byw yn nho’r tŷ.
Cafodd dros 4,000 o lechi eu defnyddio i drwsio’r to oedd yn dirywio ac yn gollwng, gan ddefnyddio cymysgedd o hen lechi lle’n bosib a llechi newydd Cymreig o Chwarel Penrhyn.
Cafodd bylchau bach eu gadael o gwmpas y bondo ac o dan y llechi i ganiatáu i’r gwenyn ddychwelyd.
“Roedd angen i ni symud y gwenyn mêl o leiaf dair milltir i ffwrdd i’w hatal rhag dychwelyd yn ystod cynnal y gwaith ar y to,” meddai John Rhys Jones, gwenynwr lleol oedd yn gyfrifol am ofalu am y gwenyn ar ôl eu symud.
“Gwnaethom y penderfyniad i’w symud 10 milltir i ffwrdd o Blas yn Rhiw.
“Ar ôl cwblhau’r gwaith, dychwelwyd y cychod gwenyn i’r berllan, a dyma’r gwenyn yn dod o hyd i’w ffordd yn ôl i’r to.”
Hanes Plas yn Rhiw
Maenordy hardd â gardd addurnol ym Mhen Llŷn yw Plas yn Rhiw.
Cafodd ei achub rhag esgeulustod a’i adfer yn ofalus gan dair chwaer – Eileen, Lorna a Honora Keating, ar ôl iddyn nhw ei brynu yn 1938.
Yn 1952, penderfynodd y chwiorydd roi’r tŷ dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar yr amod y byddai’r gwenyn yn y to yn cael eu gwarchod.
“Gwyddom fod y chwiorydd Keating yn hoff iawn o natur a bywyd gwyllt, oherwydd fe wnaethon nhw ymgyrchu’n ddiflino i amddiffyn yr amgylchedd ac roedden nhw’n gefnogwyr brwd i Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig,” meddai Mary Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Eiddo Plas yn Rhiw.
“Mae Plas yn Rhiw yn hafan i fywyd gwyllt.
“Pan aeth y chwiorydd Keating ati i adfer y tŷ, does ryfedd eu bod wedi’i wneud yn gartref i fywyd gwyllt yn ogystal ag iddyn nhw eu hunain.
“Ochr yn ochr â’r cwningod yn yr ardd a’r moch daear yn y coetir, estynnwyd croeso i’r gwenyn yn y to, ac mae’r un peth yn dal i fod yn wir heddiw – hyd yn oed pan fydd mêl yn diferu o dro i dro trwy’r craciau yn y waliau yn ystod yr haf!
“Roedden ni’n falch o allu symud y gwenyn i gychod gwenyn gerllaw tra’r oedden ni’n mynd i’r afael â’r gwaith toi.
“Roedden ni wedi sicrhau bod bylchau bach yn cael eu gadael o amgylch y bondo ac o dan y llechi ar gyfer y gwenyn.
“Marw wnaeth rhai o’r gwenyn dros y gaeaf, ond, erbyn hyn, mae gennym ni nythfa yn y to unwaith eto, ac maen nhw wedi dychwelyd i’w hen gartref.”
Mae’r to newydd, sy’n dal dŵr, yn golygu bod y tŷ’n fwy effeithlon o ran ynni, bydd yn lleihau’r perygl y gall lleithder effeithio ar y casgliadau, a bydd yn lleihau’r angen i baentio a phapuro’r ystafelloedd a ddioddefai waethaf oherwydd yr hen do diffygiol.
“Bu modd gwneud y gwaith yn sgil gwaddol y chwiorydd Keating,” meddai Mary Thomas wedyn.
“Er eu bod wedi marw, maen nhw’n dal i ofalu am y tŷ.
“Hefyd, rydyn ni’n ddiolchgar i bawb a ymwelodd â’r tŷ dros haf 2023 ac a gyfrannodd at lofnodi llechen.
“Mae’r holl arian wedi’i roi tuag at waith cadwraeth ym Mhlas yn Rhiw.”