Mae ymchwil newydd gan y Trussell Trust yn dangos nad yw Credyd Cynhwysol yn ddigonol yng Nghymru.
Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i gymryd camau i fynd i’r afael â’r sefyllfa cyn cyhoeddi Cyllideb yr Hydref.
Maen nhw am weld isafswm Credyd Cynhwysol fyddai’n golygu na fyddai modd i incwm ostwng yn is na’r lefel sy’n cael ei phennu.
Yng Nghymru, maen nhw am weld cynllun i leihau’r angen am fanciau bwyd, mwy o gefnogaeth i deuluoedd mewn angen, ac ailddyblu’r ymdrechion i ddarparu tai fforddiadwy ledled y wlad.
Ymchwil
Mae’r ymchwil gan YouGov ar ran y Trussell Trust yn dangos bod 70,000 (21%) o bobol sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru wedi gorfod troi at fanc bwyd dros y deuddeg mis diwethaf.
Fe wnaeth 51% redeg allan o fwyd fis diwethaf, a doedd ganddyn nhw ddim digon o arian i brynu rhagor.
Mae 53% o aelwydydd sydd mewn gwaith ac sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yng Nghymru wedi gorfod ymdopi heb nwyddau hanfodol dros y chwe mis diwethaf.
Dywed 24% o bobol sy’n derbyn y cymhorthdal yng Nghymru fod eu sefyllfa ariannol yn golygu ei bod hi’n anodd iddyn nhw ddod o hyd i waith neu i fynd i’w swyddi dros y tri mis diwethaf, a hynny yn ôl yr elusen am eu bod nhw wedi ei chael hi’n anodd talu am danwydd i’w cerbydau neu docyn i fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae nifer o bobol, wrth aros am bum wythnos i dderbyn Credyd Cynhwysol, yn gorfod gwneud cais am fenthyciadau, sy’n golygu eu bod nhw’n colli rhywfaint o’u harian wrth ad-dalu’r benthyciad.
Yn ôl 53% o bobol sy’n colli swm o’u harian er mwyn ad-dalu benthyciad, maen nhw’n wynebu newyn ond does ganddyn nhw ddim digon o arian i brynu bwyd – ac mae hynny o gymharu â’r 32% sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ond nad ydyn nhw’n colli swm o’u harian.
Mae 16% o bobol yng Nghymru sy’n hawlio Credyd Cynhwysol wedi wynebu bod yn ddigartref dros y deuddeg mis diwethaf.
Mae 40% o bobol sy’n derbyn y cymhorthdal yn disgwyl i’w sefyllfaoedd waethygu dros y tri mis nesaf.
Mae 49% o bobol sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn wynebu brwydr barhaus i dalu eu biliau, ac mae 17% o bobol ar ei hôl hi o ran talu eu biliau tanwydd.
Mae’n rhaid i 70% o bobol sy’n derbyn y taliad fenthyg arian neu ddefnyddio credyd i gael deupen llinyn ynghyd.
‘Y gwirionedd anodd’
“Mae’r ymchwil yma’n dangos y gwirionedd anodd am galedi yng Nghymru,” meddai Katie Till, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru yn y Trussell Trust.
“Mae’n dangos yn glir na all pobol aros am wyrdroad economaidd i gael gwella’u sefyllfaoedd presennol.
“Dydy banciau bwyd ddim yn ateb parhaol i dlodi, ond bob blwyddyn rydym yn gweld angen cynyddol am barseli bwyd brys.
“All y Prif Weinidog ddim sefyll a gadael i hyn barhau.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu mynd i’r afael â thlodi a chaledi yn ein cymunedau.
“Fel gwledydd eraill, byddai cynllun i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n mynd i’r afael â’r materion uniongyrchol sy’n gorfodi pobol i fynd heb nwyddau hanfodol.
“Mae’n beth positif gweld ymgysylltu cynnar rhwng y Prif Weinidogion dros yr wythnosau diwethaf, o ystyried bod angen i ni weld gweithredu yn San Steffan a Bae Caerdydd er mwyn sicrhau bod yr holl flociau adeiladu yn eu lle ar gyfer dyfodol heb yr angen am fanciau bwyd.”