Mae dynes 41 oed wedi’i chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed yn Abertawe.
Bu farw Alexander Zurawski mewn eiddo yn ardal Gendros nos Iau (Awst 29).
Mae Karolina Zurawska wedi’i chyhuddo o lofruddio’r bachgen bach, ac o geisio llofruddio dyn 67 oed mewn digwyddiad arall ar yr un diwrnod.
Bydd hi’n mynd gerbron ynadon yn Abertawe heddiw (dydd Llun, Medi 2).
Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r achos.
Diolch i’r gymuned
Mae Heddlu’r De wedi diolch i’r gymuned leol yn dilyn y digwyddiad, gan ddweud ei fod wedi bod yn “sioc sylweddol” iddyn nhw.
Dywed llefarydd eu bod nhw wedi bod yn “rhagorol o ran eu cefnogaeth” i’r ymchwiliad, ac maen nhw wedi diolch iddyn nhw am eu hamynedd.
Bydd yr heddlu’n parhau i fod yn yr ardal leol dros y dyddiau nesaf “i roi cyngor a sicrwydd”, meddai’r llefarydd, gan ychwanegu bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau Alexander Zurawski.
Teyrngedau
Mae Ysgol Gynradd Whitestone, lle’r oedd Alexander Zurawski yn ddisgybl, wedi talu teyrnged i’r bachgen bach.
“Rydyn ni’n torri’n calonnau o glywed am farwolaeth drasig Alexander,” meddai’r pennaeth Bethan Peterson.
“Roedd Alexander yn fachgen bach hyfryd, penderfynol yr oedd ei ymarweddiad dygn a phositif wedi sicrhau ei lwyddiant ym mhopeth wnaeth e.
“Roedd e’n fachgen poblogaidd yr oedd llawer o gariad ato ymhlith ei gyfoedion, staff a phawb oedd yn ei nabod.
“Bydd colled drist ar ei ôl e.”
Ychwanega y bydd pawb sydd wedi’u heffeithio’n derbyn cefnogaeth briodol, ac mae hi’n gofyn am breifatrwydd.
‘Plentyn caredig iawn’
“Roedd Alexander yn blentyn caredig iawn,” meddai ei deulu wrth dalu teyrnged iddo.
“Roedd e wrth ei fodd yn chwarae gyda’i chwaer fach, ac yn chwarae gyda’i gi, Daisy.
“Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda, a byth yn ddrwg.
“Roedd e’n glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran.
“Roedd ganddo fe ddealltwriaeth wych o ffeithiau.
“Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu, bob amser yn awyddus i helpu i goginio a glanhau.
“Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg, a byddai’n aml yn cywiro Saesneg ei rieni pe baen nhw’n dweud y geiriau anghywir.
“Roedd e’n anhygoel.”
Mae’r teulu wedi diolch i’r gwasanaethau brys, ac wedi gofyn am breifatrwydd.