Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru’n dweud bod “posibilrwydd” y caiff Cymru Brif Weinidog o’r blaid honno yn y dyfodol, a bod yr “hen system” ddwybleidiol wedi dod i ben yn y wlad.
Wrth siarad â golwg360, dywed Anthony Slaughter ei fod yn ymwybodol fod hyn yn annhebygol o ddigwydd yn y dyfodol agos, ond nad yw “pethau’n newid am hydoedd, ac wedyn maen nhw’n newid yn gyflym”.
Ond mae’n cydnabod y gallai fod wedi ymddeol erbyn i’r Blaid Werdd ddod i rym yng Nghymru.
‘Agor cyfleoedd i fyny’
Yn ôl Anthony Slaughter, mae’r system etholiadol newydd yn y Senedd “yn agor cyfleoedd i fyny” i bleidiau fel y Blaid Werdd.
“Mi fydd y system etholiadol newydd yn creu strwythur gwahanol,” meddai.
“Hynny yw, fydd pleidleisiau ddim yn mynd yn wastraff, a phe baech chi [yr etholwyr] yn pleidleisio dros y Blaid Werdd, fe gewch chi’r Blaid Werdd.
“Rydyn ni fel plaid wedi cyffroi’n fawr i allu rhannu’r neges yma.”
Yn ôl Anthony Slaughter, mae’r gostyngiad yn y gefnogaeth i’r prif bleidiau hefyd yn rhoi gobaith i’r Blaid Werdd y gallan nhw gael canlyniadau da.
“Dw i yn credu bod Llafur Cymru yn dirywio,” meddai.
“Maen nhw’n parhau i gael canlyniadau etholiadol [da], ond hynny ar y gyfradd leiaf o’r bleidlais maen nhw wedi’i chael erioed.
“Roedd hi’n ddiddorol iawn fod caran y bleidlais rhwng y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol y lleiaf mae hi wedi bod ers can mlynedd, ar 58%.”
Dywed fod “yr hen system [gwleidyddol]” ddwybleidiol yn y Deyrnas Unedig “wedi dod i ben”.
“Ein gwaith ni ydy cyflymu’r broses honno.”
Gall un Aelod Seneddol Gwyrdd arwain at ragor
Yn sgil Bil Diwygio’r Senedd, bydd etholiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru bob pedair blynedd, yn lle’r pump blaenorol.
Mae hyn yn debygol o ffafrio pleidiau llai sydd yn ddibynnol ar etholiadau i ledaenu eu neges.
Yn ôl Anthony Slaughter, gall y ffaith fod gan y Blaid Werdd bedwar aelod seneddol yn San Steffan helpu i “ddangos faint o effaith” y gallai’r blaid ei chael.
“Unwaith mae un aelod seneddol Gwyrdd yn y Senedd, dw i’n gallu gweld sefyllfa lle bydd mwy a mwy o aelodau seneddol yn dod mewn etholiadau yn y dyfodol,” meddai.