Mae cynllunwyr wedi gwrthod cynllun i adeiladu deunaw o dai fforddiadwy ym mhentref Cymraeg “iawn” Botwnnog yn Llŷn, yn sgil pryderon am ei effaith ar y Gymraeg a’r “diffyg galw” honedig am y cartrefi.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wrthod y cynllun fyddai wedi gweld cymysgedd o dai yn cael eu hadeiladu ar dir pori ger Cae Capel ym Motwnnog.

Roedd y cais gan Cae Capel Cyf wedi denu gwrthwynebiad lleol “cryf”.

Roedd Cyngor Cymuned Botwnnog hefyd wedi mynegi “teimladau cryf” yn erbyn y cynllun.

Roedden nhw’n teimlo y byddai’r tai yn gyfystyr â “gorddatblygiad”, ac roedden nhw’n ofni y gallai’r cartrefi fynd i bobol ddi-Gymraeg a chael effaith ar yr iaith Gymraeg.

Ond roedd yr ymgeiswyr wedi dadlau mewn adroddiad na fyddai “unrhyw effaith” neu “effaith gymedrol ar y mwyaf, ac yn sicr ddim digon i fod yn niweidiol yn ei hanfod i’r iaith”.

Dadleuon o blaid

Yn dilyn dadl ddydd Llun (Medi 9), pleidleisiodd cynghorwyr o drwch blewyn – o saith i chwech – o blaid gwrthod y cais.

Aeth y bleidlais yn erbyn cyngor y swyddogion i’w gymeradwyo – penderfyniad arweiniodd yr uwch swyddog cynllunio Gareth Jones i gyflwyno “cyfnod callio” fel bod modd ailystyried rhai materion.

Dywedodd Keira Sweeney, rheolwr cynllunio’r Cyngor, fod y cynllun wedi gweld gostyngiad, o 21 o gartrefi i ddeunaw.

Roedd y cynllun yn cynnig “cymysgedd da” o dai, a doedd e ddim yn cael ei ystyried yn “orddatblygiad”.

Roedd yn bodloni cynllun gweithredu tai Cyngor Gwynedd i “ateb y galw sylweddol am dai yn y sir”, meddai.

Dywedodd yr ymgeisydd Robert Williams y byddai’r cynllun yn “100% fforddiadwy”, gan ddadlau y byddai’r cartrefi’n cael eu llenwi gan bobol leol.

Byddai’r effaith ar yr iaith yn “fach, os o gwbl”, a byddai’r prosiect yn gwneud “cyfraniad sylweddol i’r angen lleol am dai”, meddai.

Dadleuon yn erbyn

Ond dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Gareth Williams, y gallai “fynd ymlaen am awr” yn erbyn y cynlluniau, gan ddweud y bu cryn dipyn o “ddrwgdeimlad” yn lleol.

“Mae pawb yn yr ardal leol yn teimlo’n gryf iawn yn ei erbyn o… does neb lleol wedi gofyn am gael byw yn y cartrefi,” meddai.

“Bydd yn ddeunaw adeilad rhent gymdeithasol, mewn cae gwledig, mewn pentref gwledig.”

Roedd wedi dadlau nad oes “unrhyw angen” amdanyn nhw.

Dywedodd ei fod yn “orddatblygiad mewn cae yng nghanol y pentref”.

“Bydd y bobol fydd yn byw yn y tai yn dod o’r tu allan i’r ardal,” meddai.

Dywedodd ei bod hi’n debygol mai pobol ddi-Gymraeg fydden nhw, fyddai’n “andwyol i’r diwylliant”.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwarchod y Gymraeg,” meddai.

Gofynnodd y Cynghorydd Louise Hughes, “Sut ar wyneb y ddaear maen nhw’n mynd i wasgu deunaw o dai i mewn i ardal fach?”

“Mae Botwnnog yn fwy o bentref bach; mae rhoi datblygiad anferth yng nghanol pentref bach yn newid cymeriad y pentref; fel un sydd ddim yn rhugl yn y Gymraeg, dw i’n cydymdeimlo efo’r safbwyntiau.

“Does dim angen yn lleol – nid dim ond angen ‘lleol’ yn nhermau Llŷn ydy hyn, ond Gwynedd ehangach; byddai’n newid cymeriad y pentref, felly dw i yn erbyn rhoi caniatâd yn yr achos yma.”

Ateb y galw

Fe wnaeth y swyddog cynllunio Gareth Jones ddadlau bod “angen dirfawr” am dai fforddiadwy yn y sir.

“Mae’r datblygiad hwn, a datblygiadau eraill mewn rhannau eraill fel Bethel, yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r angen am dai fforddiadwy,” meddai.

Nododd fod “y safle wedi’i ddynodi yn eich polisïau”.

“Os mai’r bwriad ydy gwrthod ar sail angen – ond fod yr adroddiad yn dangos tystiolaeth fod angen – bydd yn rhaid i ni gyflwyno cyfnod callio,” meddai.

“Fydden ni ddim yn medru amddiffyn y penderfyniad.”

Roedd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn teimlo y “dylai [y pwyllgor] gadw at ein polisïau”.

“Mae’r Cyngor wedi derbyn y cynllun datblygu lleol, ac roedd y tir hwn wedi’i gynnwys,” meddai.

“Mae yna bobol yn aros am dai; os ydyn ni’n gwrthod hyn heddiw, fel ym Montnewydd, gallai gael ei dderbyn yn dilyn apêl; ein rôl ni ydy cynnal ein polisïau.”

Effaith ar y Gymraeg

Roedd y Cynghorydd Huw Rowlands yn teimlo bod wyth cartref yn “ddatblygiad sylweddol mewn pentref gwledig Cymraeg ei iaith”.

“Bydd yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg; mae yna deimlad cryf yn lleol,” meddai.

“Pe bai’r penderfyniad anghywir yn cael ei wneud, byddai’n arwain at ganlyniadau difrifol, ac mi fydd hi’n rhy hwyr; mae’n gynnig allai achosi niwed sylweddol.”

“Dw i’n teimlo mai gwarchod cymunedau ydy ein cyfrifoldeb ni,” meddai’r Cynghorydd Elin Highs.

“Mae gwrthwynebiad eithriadol yn lleol – mae pawb yn ei erbyn o,” meddai’r Cynghorydd Gareth Jones.

Ond roedd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen yn teimlo na allai wrthod cynnig i ddarparu tai fforddiadwy.

Wrth gynnig ei wrthod, dywedodd y Cynghorydd Gruff Williams nad oes “dim angen yn lleol”.

“Dylen nhw leoli’r cartrefi lle mae yna angen, yn bennaf yn ardal Caernarfon,” meddai.

“Mae pobol yn dweud ein bod ni’n hiliol pan ydyn ni’n ceisio gwarchod ein hiaith; mae’n ei gwneud hi’n anodd i bobol sefyll i fyny yn erbyn y polisïau hyn.”

Penderfyniad

Cafodd “cyfnod callio” ei gyflwyno er mwyn galluogi swyddogion i adrodd ar y rhesymau gafodd eu rhoi.

Does dim modd gwneud penderfyniad swyddogol tan ar ôl y cyfnod callio.