Bydd pobol yng Nghymru’n cael eu cofrestru’n awtomatig i bleidleisio yn sgil deddf newydd.
Yn ôl amcangyfrifon, gallai hyd at 400,000 o bobol sydd heb gofrestru i bleidleisio gael eu hychwanegu at y gofrestr.
Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi rhoi ei sêl ar y ddeddf – y ddeddf gyntaf iddi ei chymeradwyo ers iddi ddod i’r swydd.
Bydd ei sêl bendith yn golygu bod Cymru’n dilyn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal, sy’n defnyddio system debyg eisoes.
Cafodd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ei gyflwyno i’r Senedd am y tro cyntaf fis Hydref y llynedd, a’i basio fis Gorffennaf eleni.
Ochr yn ochr â chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol, bydd y ddeddf newydd yn:
- sefydlu corff newydd fydd yn cydgysylltu’r gwaith o weinyddu etholiadau Cymru’n effeithiol.
- creu platfform gwybodaeth newydd i bleidleiswyr ar-lein.
- cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth yn Aelodau’r Senedd a llywodraeth leol.
‘Cam enfawr ymlaen’
Wrth roi ei sêl, dywed Eluned Morgan y dylai pob person yng Nghymru gael y cyfle i fwrw eu pleidlais mewn etholiad sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu bywydau.
“Er bod gan bawb yr hawl i benderfynu a ydyn nhw’n pleidleisio, bydd cofrestru awtomatig yn helpu i chwalu’r rhwystrau posibl rhag pleidleisio,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae cyflwyno’r gyfraith hon yn gam enfawr ymlaen i wneud system o weinyddiaeth etholiadol yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”
O ran yr elfen o’r ddeddf fyddai’n anelu at gynyddu amrywiaeth ymysg Aelodau’r Senedd a chynghorwyr, bydd yn golygu bod dyletswydd ar weinidogion Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth i hyrwyddo amrywiaeth ymysg ymgeiswyr.
Bydd hefyd yn rhoi pwerau iddyn nhw gyflwyno rhaglenni cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr gyda nodweddion penodedig i gyflwyno’u henwau.