Mae protest wedi’i chynnal mewn gorsaf yn Belfast tros arwyddion uniaith Saesneg.

Daeth protestwyr ynghyd yn y Grand Central ar ôl i’r ganolfan newydd werth £340m – y ganolfan fwyaf o’i math ar ynys Iwerddon – agor yno ddechrau’r wythnos.

Ond mae cwmni Translink, sef darparwr trafnidiaeth gyhoeddus Gogledd Iwerddon, dan y lach am ddiffyg arwyddion dwyieithog, yn ôl adroddiadau’r wasg yn y wlad.

Fe fu’r protestwyr yn galw ar John O’Dowd, y Gweinidog Isadeiledd, i orchymyn Translink i godi arwyddion dwyieithog yn yr orsaf.

Yn ystod y brotest, cafodd baner y mudiad hawliau ieithyddol Dream Dearg ei dadorchuddio ar lawr yr orsaf, wrth i’r mudiad fynegi eu siom ynghylch y sefyllfa.

Dywed y mudiad eu bod nhw wedi bod yn cydweithio â Translink ers 2022 er mwyn sicrhau bod arwyddion yr orsaf yn ddwyieithog, ond eu bod nhw’n “anwybyddu” eu dyletswydd, hyd yn oed ar ôl i Gyngor Dinas Belfast basio cynnig yn galw arnyn nhw i sicrhau arwyddion dwyieithog.

Mae’r mudiad yn cyhuddo’r cwmni o weithredu’n groes i Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Rhanbarthol Ewrop, ac yn galw ar y Gweinidog John O’Dowd i ymyrryd.

Yn ôl Translink, mae yna arwyddion Gwyddeleg yn yr orsaf, ochr yn ochr ag ieithoedd Ewropeaidd eraill.

Dywed llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod nhw’n parhau i drafod y mater â Translink.