Mae cyfraith cynaliadwyedd arloesol Cymru wedi ysbrydoli deddfwriaeth arfaethedig mewn talaith o oddeutu 114m o bobol yn India.

Mae bil aelodau preifat – o’r enw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Maharashtra – wedi’i gyflwyno i Gynulliad Deddfwriaethol Maharashtra.

Wedi’i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Cymru, mae’r bil newydd yn cynnig Comisiynydd ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau bod adrannau’r llywodraeth yn dilyn targedau cynaliadwy.

Yn nhermau poblogaeth, mae talaith Maharashtra oddeutu 40 gwaith yn fwy na Chymru.

Ym mis Ionawr, fe wnaeth cynrychiolwyr o India ymweld â Chymru i gasglu gwybodaeth, yn dilyn ymweliad blaenorol yn 2023 gyda Rhaglen Cyfnewid Dysgu Deddfwr Maharashtra ar Lywodraethu Da a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Siaradodd cynrychiolwyr gyda Derek Walker, Comisynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, am y Ddeddf a sut mae’n gweithio yng Nghymru.

Ym mis Mawrth, fel rhan o lansiad Cymru yn India, sef cyfres o ddigwyddiadau dros gyfnod o ddeuddeg mis yn dathlu’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, fe wnaeth cynrychiolwyr o Gymru ymweld â Mumbai ac, ymysg paneli sgyrsiau eraill, cafodd trafodaethau eu cynnal am ddeddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol.

Wedi’i arwain gan Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ystod ei chyfnod yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Derek Walker, fe wnaeth cynrychiolwyr Cymreig gwrdd ag Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol (MLA) o Maharashtra.

Ffocws y trafodaethau oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyda’r posibiliad o weld talaith Maharashtra yn mabwysiadu fframwaith deddfwriaethol tebyg.

Cydweithio

“Ym mis Chwefror, roedden ni wrth ein boddau yn croesawu llywodraeth talaith Maharashtra yn India, sy’n gartref i ryw 114m o bobol – i rannu ein profiad o fod y wlad gyntaf yn y byd i wneud Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyfraith,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’r Ddeddf yn rhoi terfyn ar benderfyniadau tymor byr, gan sicrhau bod gweinidogion a chyrff cyhoeddus yn ystyried effeithiau hirdymor ein dewisiadau.

“Rwy’n croesawu’r newyddion fod Maharashtra yn nesáu at weithredu eu fersiwn nhw o’r Ddeddf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’n ffrindiau yn y dalaith i rannu canfyddiadau a helpu i sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol i’n plant, i’n hwyrion a’n hwyresau, a chenedlaethau’r dyfodol.”

‘Angen i Gymru a Maharashtra weithredu’

“Mae’n newyddion gwych fod Maharashtra yn symud ymlaen gyda’i chynlluniau ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol,” meddai Derek Walker.

“Mae’r byd angen i Gymru a Maharashtra weithredu er budd y rhai hynny sydd heb eu geni eto ac a fydd yn etifeddu canlyniadau ein gweithredoedd ni – fel gwlad fach, mae Cymru’n dangos y rhan fawr mae’n ei chwarae yn y genhadaeth fyd-eang honno.

“Dwi’n falch fod Cymru’n parhau i fod yn esiampl pan mae’n dod i genedlaethau’r dyfodol.

“Bydd gan y ddwy wlad lawer i’w rannu a dysgu wrth gydweithio i weithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a chefnogi arweinwyr heddiw a’r dyfodol i weithredu nawr am yfory gwell.”

Yn ôl Ameet Satam, Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol (MLA) o Andheri (Gorllewin) oedd wedi cyflwyno’r bil, y nod yw sicrhau bod penderfyniadau a gweithrediadau’r llywodraeth yn cyd-fynd ag 17 Nod Datblygiad Cynaliadwy Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig.

“Bydd hyn yn sicrhau waeth pa lywodraeth sy’n cael ei harwain gan pa bynnag blaid, bydd pob adran yn gorfod dilyn llwybr sy’n arwain tuag at nodau a pharamedrau a osodwyd eisoes ac sy’n cyd fynd â datblygiadau cynaliadwy,” meddai.

Yn 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfwriaethu er budd cenedlaethau’r dyfodol – gan ysbrydoli gweledigaeth y Cenhedloedd Unedig am Gennad Arbennig i Genedlaethau’r Dyfodol a gwledydd eraill, o Ganada ac Iwerddon, i’r Alban a Gibraltar.

Gwnaeth y Ddeddf hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud dewisiadau oedd yn boddhau gofynion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Cafodd Cymru yn India ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i gryfhau’r berthynas a’r cyfleoedd rhwng y ddwy wlad.