Mae’r gymuned ryngwladol yn edmygu ymdrechion Cymru ym meysydd newid hinsawdd a thrafnidiaeth, yn ôl Lee Waters.

Cafodd yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Lafur ei wahodd i’r wlad dros yr haf i siarad â gweinyddwyr am brofiadau Llywodraeth Cymru o arbrofi gyda pholisïau yn y ddau faes.

Doedd y daith i ddinasoedd fel Adelaide, Sydney, Melbourne a Canberra ddim wedi cael ei hariannu gan drethdalwyr.

“Ces i fy ngwahodd gan Gorfforaeth Trafnidiaeth Awstralia i siarad yn eu cynhadledd flynyddol nhw, a chyfres o deithiau siarad ar sail hynny,” meddai wrth golwg360.

“Wnes i gyfarfod â’r Gweinidog Ffederal dros Newid Hinsawdd, a gweinidogion trafnidiaeth y taleithiau.

“Wnes i gyfarfod â swyddogion llywodraeth leol a chyfarwyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus.

“Felly, ges i nifer o gyfarfodydd cyhoeddus hynod ddiddorol – 28 o ddigwyddiadau dros dair wythnos yn y pen draw!

“Mae diddordeb mawr ganddyn nhw yn yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru, oherwydd maen nhw’n gallu gweld tystiolaeth ein bod ni’n gwneud newidiadau i weithredu egwyddorion cwtogi carbon.

“Nid dim ond dweud beth sydd ei angen erbyn 2050 ydyn ni yng Nghymru, ond yn gwneud newidiadau go iawn heddiw.

“Ac mae eithaf tipyn o edmygedd tuag at yr hyn rydyn ni wedi’i wneud, a dyhead i gael deall beth all gwledydd eraill ei ddysgu o hynny, boed hynny’n dda neu’n ddrwg.”

Dysgu o brofiadau ym mhen draw’r byd

Roedd Lee Waters wedi dysgu o’i brofiadau yn Awstralia hefyd, meddai.

“Dyma oedd yn glir i fi wrth ddod ‘nôl i Gymru: mae newid polisi trafnidiaeth yn anodd iawn lle bynnag ydych chi, oherwydd ein bod ni wedi bod yn dilyn strategaeth ers 70 o flynyddoedd o’i gwneud hi’n haws i fedru gyrru.

“Ac mae’n amlwg iawn, os ydyn ni am gyrraedd ein targedau net sero, y bydd yn rhaid i ni newid hynny.

“Ac mae pawb, ar draws y Gorllewin, yn wynebu cwestiynau o ran sut mae gwneud hynny, o ystyried bod barn y cyhoedd ym mhob man mor wrthwynebus.”

Ac mae Lee Waters yn sicr wedi wynebu’r farn honno wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder 20m.y.a., sydd wedi hollti barn pobol ledled Cymru.

“Rydyn ni wedi newid ein hagwedd ni tuag at adeiladu ffyrdd, a doedd hynny ddim mor ddadleuol ag yr oedden ni’n ei ddisgwyl,” meddai.

“Ac rydyn ni wedi newid ein hagwedd ni tuag at gyflymder, ac mae hynny wedi bod yn fwy dadleuol nag yr oedden ni’n ei ddisgwyl.

“Ond mae’r rhan fwyaf o waith rydyn ni wedi’i wneud yn ymwneud ag ail-wifrio systemau o ran sut mae creu a gweithredu polisiau, a sut mae gwneud penderfyniadau ariannol, a dydy hynny heb gael ryw lawer o sylw yn y wasg o gwbl.

“Dyna’r math o beth sydd ei angen os ydyn ni o ddifrif am fod eisiau mynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Mae hynny’n wir ym mhob man – yr un mor wir yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ag yw e yn Awstralia.

“Mae’n anodd ym mhob man, ond bydd peidio newid hyd yn oed yn anoddach.”