Mae Liz Saville Roberts yn galw ar Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, i ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo am “esgeuluso dyletswyddau”.

Mae Dominic Raab wedi cael ei gyhuddo o “fethu” â chynnig gwarchodaeth i deuluoedd cyfieithwyr o Affganistan.

Yn ôl adroddiadau, bu oedi mewn cymorth i gyfieithwyr wnaeth gefnogi byddin Prydain oherwydd bod yr Ysgrifennydd Tramor ar ei wyliau yn Crete ac yn methu gwneud galwad ffôn.

“Yr Ysgrifennydd Tramor a’r alwad fyddai wedi achub bywydau wnaeth e ddim ei gwneud: dyfarniad gwleidyddol methedig, difaterwch tuag at ddyletswydd a diffyg dyngarwch didrugaredd,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Fe wnaeth e fethu gwneud yr alwad iawn.

“Dyw’r Ysgrifennydd Tramor ddim yn hawlio parch yn dilyn esgeuluso dyletswyddau yn ystod argyfwng Affganistan.

“Dylai Dominic Raab ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo o’i rôl.”

“Dangos ychydig o arweiniad”

Mae Lisa Nandy, llefarydd materion tramor y Blaid Lafur, alw arno i ymddiswyddo neu golli ei swydd hefyd.

“Sut all Boris Johnson ganiatáu i’r Ysgrifennydd Tramor barhau yn ei rôl ar ôl gwneud dyfarniad gwleidyddol methedig trychinebus arall?” gofynnodd.

“Os nad oes gan Dominic Raab y cwrteisi i ymddiswyddo, mae’n rhaid i’r Prif Weinidog ddangos ychydig o arweiniad a’i ddiswyddo.”

“Anghynaladwy”

“Ni all gweinidogion Torïaidd olchi eu dwylo rhag cyfrifoldeb am y trychineb hwn mewn polisi tramor,” meddai Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

“Mae Dominic Raab wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau sylfaenol fel Ysgrifennydd Tramor, ac mae e wedi rhoi bywydau pobol mewn perygl.

“Mae ei rôl yn gwbl anghynaladwy ac mae’n rhaid iddo ymddiswyddo, neu gael ei ddiswyddo.”

“Cywilydd arno”

Dywedodd cyn-gyfieithydd, dinesydd Prydeinig a roddodd ei enw fel Rafi, 35, wrth y Press Association ei fod e “wedi syfrdanu” na wnaeth Dominic Raab wneud yr alwad.

“Sut allai rhywun wneud rhywbeth felly yn y sefyllfa ddyrys hon?” meddai.

“Gallai’r cyfieithwyr a’u teuluoedd gael eu lladd ar unrhyw adeg; mae’r Llywodraeth wedi dweud celwydd yn blwmp ac yn blaen wrth yr holl fyd.

“Dw i’n ddinesydd Prydeinig; a oedd e’n rhy brysur yn edrych ar ôl teuluoedd dinasyddion Prydeinig yn Affganistan?

“Mae e’n methu â chynnig diogelwch a gwarchodaeth i deuluoedd y rhai yn Affganistan a wnaeth wasanaethau Llywodraeth Prydain yn y rhyfel yn erbyn brawychiaeth.

“Os oedd e’n rhy brysur yn ystod ei wyliau i helpu, cywilydd arno.”

“Dw i’n ofni mai dyna’r alwad ffôn olaf” meddai brodor o Affganistan wrth Golwg 360

Jacob Morris

Ers i’r Taliban gymryd rheolaeth o Affganistan mae brodor o’r wlad yn poeni am ddiogelwch ei deulu