Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn dweud y dylai teuluoedd sydd â gerddi blannu mwy o goed.
Dywed Lee Waters “ein bod ymhell ar ei hôl hi o ran lle mae angen i ni fod” ar dargedau plannu coed.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw plannu 86m yn fwy o goed erbyn diwedd y degawd.
Dywed Lee Waters y bydd yn newid y broses i’w gwneud hi’n haws plannu coed mewn rhai ardaloedd, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r “her enfawr”.
Ychwanega fod y targed yn “ddarn enfawr i bob un ohonom”.
“Yn fy oes i, dydyn ni heb blannu digon o goed,” meddai.
“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb.
“Mae angen plannu mwy o goed yn ein gerddi, a hynny os oes ganddyn nhw ardd.
“Gall awdurdodau lleol, unrhyw un sy’n berchen ar dir, fod yn meddwl ble gallwn ni blannu coed, oherwydd mae coed yn bethau da.”
Plannu coed a siopa
Yn ôl yr Athro Mary Gagen, sy’n arbenigo mewn Daeryddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae plannu coed yn gallu cael sgil seffeithiau buddiol ar yr economi.
Yn ogystal ag amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer, gan leihau llygredd a chefnogi bywyd gwyllt, mae ganddo fuddion annisgwyl.
“Rydyn ni’n gwybod bod siopwyr yn gwario mwy o arian ar strydoedd sydd â choed mawr – nid coed yn unig, yn benodol coed mawr,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod fod myfyrwyr yn canolbwyntio ar eu gwaith yn well os ydyn nhw’n gallu gweld coed allan o’u ffenest.”
Er y byddai’r rhan fwyaf o goed yn cael eu plannu mewn ardaloedd coetir, mae arbenigwyr yn annog awdurdodau lleol i flaenoriaethu cadw a phlannu coed mewn ardaloedd trefol hefyd.
Coed yn asedau
Mae’n galw hefyd am newid rheolau cynllunio i’w gwneud hi’n anoddach i dorri coed i lawr.
“Rydym yn cyfeirio atynt fel prif loriau seilwaith gwyrdd,” meddai’r Athro Gagen wedyn.
“Dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried… fel yr ased y dylent fod. Dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried yn wasaneth hanfodol, er enghraifft fel ystyrir blychau post.
“Hynny yw, mae blychau post yn wasanaeth hanfodol.
“Bydd angen mwy o drafodaeth gynllunio er mwyn newid y gwasanaeth hwnnw, a dylem symud i sefyllfa lle rydym yn gweld coed aeddfed mawr fel gwasanaeth hanfodol hefyd.”