Mae cwest wedi clywed bod dyn oedd wedi dioddef ymosodiad ym Mharc Bute yng Nghaerdydd wedi marw o ganlyniad i anaf i’w ymennydd.

Bu farw Dr Gary Jenkins, oedd yn 54 oed, yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd dros bythefnos ar ôl yr ymosodiad ar Orffennaf 20.

Roedd ganddo fe anafiadau i’w ymennydd, ei wyneb a’i ben, ac fe gafodd e driniaeth yn yr ysbyty er mwyn ceisio achub ei fywyd ond fe waethygodd ei gyflwr yn gyflym.

Mae tri o bobol wedi’u cyhuddo o’i lofruddio – Jason Edwards, 25 oed o ardal Glanyrafon, Lee William Strickland, 36 oed heb gyfeiriad parhaol, a merch 16 oed nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol ac mae’r tri wedi’u cadw yn y ddalfa tan fis Hydref.

Mae cwest Dr Gary Jenkins ym Mhontypridd wedi’i ohirio er mwyn i’r ymchwiliad troseddol barhau.

Mae disgwyl gwrandawiad pellach ar Fai 26.