Fe fydd sylw i gyfraith a threfn yng nghynhadledd y Ceidwadwyr heddiw (5 Hydref) yn dilyn protestiadau ar y traffyrdd a llofruddiaeth Sarah Everard.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Dominic Raab yn defnyddio ei araith ym Manceinion i gyhoeddi y bydd yn cynyddu nifer y troseddwyr sy’n gwisgo tagiau electronig, tra bod yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn rhoi manylion pellach am sut mae hi’n bwriadu mynd i’r afael a phrotestwyr fel Insulate Britain a Gwrthryfel Difodiant.

Fe fydd Priti Patel hefyd yn defnyddio ei hanerchiad i’r gynhadledd i gyhoeddi y bydd £15m yn cael ei roi i ehangu profion ar bobl sy’n cael eu harestio ac yn cael eu hamau o gymryd cyffuriau. Fe allai arwain at roi triniaeth iddyn nhw.

Mae disgwyl i Dominic Raab ddweud y bydd mwy na 25,000 o droseddwyr yn cael tagiau electronig fel rhan o gynllun gwerth £183m i ehangu’r defnydd o fonitro electronig er mwyn gostwng nifer y troseddau.

Fe fydd y troseddwyr a fydd yn gwisgo’r tagiau electronig ar ôl dod allan o’r carchar yn cynnwys lladron a byrgleriaid, yn ogystal â rhai sy’n euog o gam-drin domestig.

Fe fydd Dominic Raab hefyd yn dweud mai ei “flaenoriaeth bennaf” yw diogelu menywod a Mercher yn ogystal ag amlinellu ei weledigaeth i ailwampio’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Mae disgwyl iddo roi addewid i “drawsnewid” y ffordd mae’r system gyfiawnder yn trin troseddau yn erbyn menywod a gwneud y strydoedd yn fwy diogel, yn dilyn llofruddiaethau Sarah Everard a Sabina Nessa.