Mae rhai ardaloedd yn y de a’r canolbarth wedi cael eu taro gan lifogydd yn dilyn y tywydd stormus dros nos.

Roedd gwasanaethau tân ac achub wedi cael eu galw i ddelio â dros 200 galwad mewn cyfnod o bedair awr, yn cynnwys pobol oedd yn sownd yn eu ceir. Roedd dwr hefyd wedi llifo i gartrefi yng Nghydweli, Castell-nedd a’r Porth.

Mae rhybudd llifogydd yn parhau i fod yn weithredol yn ardal yr afon Elái yn Llanbedr-y-Fro ger Caerdydd.

Hefyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio deg ardal i fod yn wyliadwrus yn cynnwys ardaloedd Castell Nedd, Llanelli a Phen-y-bont ar Ogwr.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a gwyntoedd cryfion rhwng 5yh ddydd Llun (4 Hydref) a 4yb ddydd Mawrth (5 Hydref).

Dywedodd Shawn Moody ar raglen frecwast BBC Radio Wales eu bod nhw wedi cael eu “boddi” gan alwadau.

“Rhwng tua 9yh neithiwr a 2yb y bore ’ma, fe wnaethon ni dderbyn dros 200 galwad am lifogydd ar ben ein niferoedd galwadau arferol,” meddai.

“Fe lwyddon ni i ymateb gyda swyddogion ac offer o wasanaethau tân y canolbarth a de Cymru.

“Roedd oedi weithiau, ond fe wnaethon ni fynychu pob digwyddiad yn ystod y cyfnod hwnnw.”