Gall y tywydd yng Nghymru gyrraedd uchafbwynt o 20°C erbyn y penwythnos, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae’n debyg bod yr hyn sy’n weddill o Gorwynt Sam wedi gwneud ei ffordd ar draws yr Iwerydd, a bydd hynny’n dod â hinsawdd drofannol yn ystod y dydd a’r nos erbyn diwedd yr wythnos.

Er na fydd cyfnodau estynedig o heulwen, bydd hi’n aros yn weddol sych drwy gydol y cyfnod cynnes, gyda chawodydd byrion mewn mannau.

Mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae rhybudd melyn am law trwm wedi ei gyhoeddi yn yr Alban, er gwaetha’r gwres.

Mae’r tywydd poeth sydd ar ddod yn dilyn cyfnod o law trwm a gwyntoedd cryfion ar ddechrau’r wythnos, a achosodd lifogydd mewn rhannau o Gymru.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd gwasanaethau tân ac achub wedi cael eu galw i ddelio â dros 200 galwad mewn cyfnod o bedair awr, yn cynnwys pobol oedd yn sownd yn eu ceir.

Aer trofannol

“Mae hyn yn ymwneud â Chorwynt Sam,” meddai Alex Deakin o’r Swyddfa Dywydd.

“Dydy o bellach ddim yn gorwynt erbyn hyn, ond mae’n parhau i fod yn ardal eithaf sylweddol o wasgedd isel, ac yn gwneud ei ffordd i fyny tuag at Wlad yr Iâ, a’r ffryntiau tywydd yn agosáu at ogledd orllewin [y Deyrnas Unedig].

“Ond oherwydd ei bod hi’n system drofannol, bydd aer trofannol yn rhan ohoni hefyd, felly mae hynny’n mynd i ddod â rhywfaint o gynhesrwydd ddydd a nos.”

“Felly ar ôl dechrau oer i ddydd Mercher, mae dydd Iau yn addo dechreuad mwyn iawn.”