Mae Adam Price yn galw ar Gymru i “arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a sicrhau mai pobol Cymru fydd yn elwa o’r cyfle i greu dyfodol gwyrddach.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, a fydd yn ymweld â COP26 heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 11), mai’r ffordd y gall cenhedloedd bychain fel Cymru gael eu ymbweru i gwffio dros weithredu er mwyn yr hinsawdd yw’r brif wers iddo ei dysgu gan y gynhadledd.

“Ni ddylai maint ein cenedl gyfyngu ar yr hyn allwn ni ei gyflawni wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd’, meddai’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddywrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Fe wnaeth y galwadau ar ôl beirniadu drafft cyntaf cytundeb COP26, sydd, meddai fe, yn dangos bwlch “syfrdanol” rhwng “rhethreg arweinwyr y byd a realiti”.

Cyfoethog

“Rhwng eithafoedd llifogydd yn y gaeaf a’r ddaear sych yn yr haf, mae Cymru’n teimlo effeithio newid hinsawdd yn barod,” meddai.

“Wrth i ni aros i arweinwyr byd osod cynllun gwirioneddol i gadw o fewn cynnydd o 1.5 gradd mewn cynhesu byd-eang, y brif wers rydyn ni’n ei dysgu gan COP26 yw y gall cenhedloedd bach fel Cymru gael eu hymbweru i gwffio dros weithredu er mwyn yr hinsawdd.

“Mae ein cenedl yn gyfoethog mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Uchelgais

“Er ein bod ni, efallai, yn dal i weld creithiau’r polisi crasu’r ddaear a gafodd ei orfodi ar gymunedau diwydiannol yn y 1980au, gallwn ni dal arwain y trawsnewidiad gwyrdd.

“Gall ein chwyldro ynni glân greu swyddi â sgiliau uchel a chodi safonau byw i bobol ym mhob congl o Gymru.

“Mae ein huchelgais dipyn mwy nag un Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a ni ddylen ni adael i’n maint gyfyngu ar yr hyn allwn ni ei gyflawni.

“Dyna pam bod rhaid i Lywodraeth Cymru gael lifrau economaidd a phwerau dros Ystâd y Goron er mwyn sicrhau mai pobol Cymru fydd yn elwa o’r cyfle hanesyddol yma i greu dyfodol gwyrddach.”

Drafft cyntaf COP26 ‘ddim yn ddigon cryf’

‘Os mai dyma’r gorau maen nhw’n gallu ei wneud does dim rhyfedd bod plant heddiw yn gandryll gyda nhw’ J Morgan, Greenpeace