Gyda chlybiau a thafarndai bellach wedi ailagor ers i argyfwng Covid-19 daro, mae yna ofid fod yna fygythiad annelwig newydd ar y gweill – sbeicio.

Hyd at yn ddiweddar roedd sbeicio yn golygu bod rhywun yn rhoi alcohol neu gyffuriau yn niod rhywun arall heb yn wybod iddyn nhw.

Mae drwgweithredwr gan amlaf yn ceisio cymryd mantais o berson arall wedi i effeithiau’r alcohol neu gyffuriau gicio fewn, boed hynny’n rhywiol neu drwy ddwyn.