Mae’r nyrs 21 oed yn byw ym mhentref Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, ac yn gofalu am gleifion yn Adran Frys Ysbyty Glan Gwili.
Mae hefyd yn gwneud fideos TikTok i’r Llywodraeth ac yn cyflwyno eitemau digrif ar Hansh…
Sut wnaethoch chi gychwyn cyflwyno eitemau ar Hansh?
Roeddwn i yn Tafwyl, ac ar y dydd Sadwrn roedd e’n braf a packed. Ond wedyn ar y dydd Sul roedd e’n wag, oherwydd y glaw.
Ac roeddwn i wedi gwneud fideos bach fel ‘sdim ciws i’r tai bach!’ ar y dydd Sul, oherwydd roedd pawb wedi bod yn cwyno am y ciws massive y diwrnod cynt…
A wnes i fideo ‘dim ciws i’r bar’ a rhedeg am y bar… a chwympo yn fflat ar wyneb fi, ac aeth y fideo yn feiral ar trydar… wnaeth Hansh bostio rhywbeth yn dweud ‘y peth gorau i ddigwydd yn Tafwyl leni’, a rhyw fis wedyn ges i gyfarfod gyda nhw. Rydw i fel insider ar y carped coch mewn digwyddiadau glitzy neu ffasiwn…
Ydych chi wedi holi unrhyw un enwog?
Yn y BAFTAS wnes i holi Rob Brydon beth oedd wedi digwydd i ‘Bryn’ ar y fishing trip yn Gavin & Stacey… and it’s gonna stay a secret!
Oeddech chi wedi perfformio cyn cael y gig gyda Hansh?
Roeddwn i wedi astudio Drama Lefel A, wedi gwneud sioeau ysgol, a bydden i yn joio gwneud ychydig bach mwy o actio.
Roeddwn i wedi gwneud gradd wyth yn canu, a chael distinction!
Pam oeddech chi eisiau gyrfa yn nyrsio?
Ges i fy ngeni tri mis yn fuan, yn pwyso dim ond dau bwys, a wedodd pawb: ‘Mae e’n mynd i farw’.
Roedd fy rhieni a’r nyrsus a’r doctoriaid wedi helpu shwt gyment, ag allan o 11 baban yn yr Intensive Care Unit, fi oedd yr unig un i oroesi.
Felly rydw i’n teimlo mor lwcus i jesd bod yma, ac wedi dewis gyrfa yn nyrsio er mwyn gallu rhoi rhywbeth yn ôl.
Sut gawsoch chi’r gwaith o fod yn un o Lysgenhadon Digidol Llywodraeth Cymru?
Ro’n i wedi gwneud fideo ar YouTube pan ges i’r brechiad covid, yn egluro beth oedd y broses. Gan fy mod i yn fyfyriwr nyrsio ar y pryd, roeddwn i yn un o’r rhai cyntaf i gael y vaxine.
Gath y fideo cwpwl o filoedd o views, ac roedd rywun o social media team y Llywodraeth wedi gofyn i fi helpu rhannu tips ar gyfer y cyfnod covid.
Felly rwy’n rhannu tips ar fideos bach ar TikTok, Instagram a YouTube, ar sut i gadw yn ddiogel yn ystod yr amser yma.
A beth yw hyn am helpu i drefnu tripiau ar gychod yn Llanusyllt?!
Busnes y teulu yw mynd â phobol allan mewn cychod pleser o Saundersfoot, a ryden ni gyd yn helpu pan mae ganddo ni amser rhydd.
Yn yr Haf rydw i a mam yn yr offis yn cymryd bookings, a joio mas draw yn y brêcs, yn cael neidio bant o’r cwch i’r môr.
Ond roedd hi’n wallgof o brysur yr Haf diwetha’ yma.
Sut fyddech chi yn disgrifio eich steil?
Rydw i yn credu bod ffasiwn yn amazing, ac mae sut rydw i yn cyflwyno fy hun yn bwysig i fi.
Rydw i’n eithaf conservative gyda fy steil, ac mae hi’n bwysig mynegi dy hunan trwy beth ti’n wisgo.
Ar y rhaglen Am Dro ar S4C roeddwn i wedi gwisgo hunter wellingtons, jîns, crys a tweed jacket, gyda sbectol haul.
Beth yw eich atgof cynta’?
Agor anrheg Nadolig Tomos y Tanc yn dair oed.
Beth yw eich ofn mwya’?
Mae gen i alergedd i wasps. Fi wedi bron â marw cwpwl o weithiau ar ôl cael fy mhigo.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Rhedeg, nofio gwyllt a yoga.
Mae pawb yn teulu fi yn dda iawn am redeg, a fi yw’r weakest link, oherwydd mae gyda fi asthma. Y mwyaf wnes i redeg oedd 10k.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobol sy’n taflu sbwriel. Pam?
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Dw i wir ddim yn gwybod pwy fydden i yn gwahodd, ond rwy’n gwybod ble byddwn i yn mynd â nhw.
Mae’r lle hyn yn Calk Bay yn Ne Affrica, ac maen nhw yn gwneud the best calamari.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Joio byw, caru Duw!
Rydw i’n mynd i’r eglwys ym Mhorth Tywyn pob dydd Sul.
Beth yw eich hoff wisg ffansi?
Ar bob un Diwrnod y Llyfr am wyth mlynedd yn yr ysgol gynradd, wnaeth fy mam wisgo fi lan fel James Bond.
Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?
Parti yn ystod polo match yng ngwesty’r Celtic Manor ger Casnewydd. Fi, mam a nain yn joio mas draw.
Hoff wyliau?
Pob blwyddyn mae ein teulu yn mynd i Baris ar gyfer y flwyddyn newydd, ac mae e’n absolute vibe! The French know how to party!
Beth yw eich hoff ddiod?
Dŵr. Mae gen i dipyn bach o obsesiwn ac rydw i yn yfed tua thri litr y dydd.
A beth am alcohol?
Mae yna jin o’r enw Harbour Lights sy’n cael ei wneud ym Mhorth Tywyn, ac mae e’n blasu yn grêt ac yn newid lliw! What more could you want?!
Beth yw eich hoff air?
Enjoyen… rydw i yn ei ddweud e trwy’r amser, yn enwedig os ydw i wedi cael drinc fach.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Mae lot o bobol ddim yn sylweddoli nad Mikey yw enw go-iawn fi.
Enw llawn fi yw Stewart Michael John Denman.