Mae datganoli pwerau ymhellach “yn ddiangen ac yn anniogel”, yn ôl Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ogledd Cymru.
Daeth ei sylwadau wrth i Aelodau’r Senedd gymeradwyo adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Yn ystod dadl yn y Senedd ddydd Mawrth (Mawrth 19), dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod angen meddwl yn “fwy uchelgeisiol” am daith gyfansoddiadol Cymru.
Daeth eu sylwadau yn rhan o ddadl ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, wedi i’r Prif Weinidog annog Aelodau’r Senedd i gymeradwyo’r adroddiad.
Mark Drakeford wnaeth y cynnig, ac fe arweiniodd y ddadl ar ei ddiwrnod olaf yn Brif Weinidog Cymru.
‘Rwy’n annog Aelodau i’w gymeradwyo’
Agorodd Mark Drakeford y ddadl drwy edrych yn ôl dros y 25 mlynedd diwethaf – o’r ymdrech ar gyfer Cynlluniad Cenedlaethol i Gymru i le mae’r Senedd wedi cyrraedd bellach.
“Chwarter canrif yn ôl i’r mis hwn nawr, roedd rhai ohonom ni yn y Siambr hon yn rhan o’r ymdrech etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru,” meddai.
“Roedd ethol y Cynulliad cyntaf yn nodi cyfnod newydd i Gymru.
“Am y tro cyntaf, roedd penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, gan Aelodau Cynulliad gafodd eu hethol gan bobol Cymru.
“25 mlynedd yn ddiweddarach, camp fwyaf y rhai ddaeth o’n blaenau ni yw fod datganoli yn rhan sefydlog o dirwedd gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.”
Aeth yn ei flaen i drafod yr heriau mae datganoli wedi’u hwynebu, gan annog Aelodau i gymeradwyo’r adroddiad a’r cynnig.
Ond “yn anffodus, nid yw’r parch hwn at ddatganoli yn cael ei ddangos gan bawb,” meddai.
“Ers ethol Boris Johnson yn Brif Weinidog, mae diffygion ein setliad wedi cael eu datgelu.
“Mae arferion a chonfensiynau cyfansoddiadol wedi cael eu hanwybyddu.
“Mae pwerau a chyllid wedi cael eu tynnu yn ôl i Lundain, ac mae Confensiwn Sewel wedi cael ei sathru.
“Dyma’r cefndir y cafodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei sefydlu yn ei erbyn.
“Mae Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi diystyru’r adroddiad o’r blaen, a heb os byddan nhw’n gwneud heddiw, ond mae’r Comisiwn yn ymgais ddifrifol i gymryd o ddifrif rai o gwestiynau mwyaf difrifol ein hamser.
“Cynhaliodd ei ymchwil helaeth ei hun yn seiliedig ar sgyrsiau gyda miloedd o bobol a’u hadborth, ac mae’r sgyrsiau hynny’n dangos yn glir pa mor dda mae pobol wedi deall y ffordd y mae Cymru a’r ffordd y mae’n cael ei rhedeg yn cael effaith uniongyrchol ar eu blaenoriaethau eu hunain ac ar fywyd cymunedau ac unigolion yng Nghymru.
“Mae’r Cyfansoddiad yn bwysig i bobol yng Nghymru.
“Nid yw’n tynnu sylw oddi wrth iechyd na thai nac addysg na thrafnidiaeth, ond yn sylfeini sy’n sail i’r gwasanaethau hynny.
“Dw i am gau fy nadl olaf yn y Senedd hon yn Brif Weinidog drwy ddiolch i’r Cyd-gadeiryddion, Laura McAllister a Rowan Williams, a holl aelodau’r Comisiwn, ar gyfer yr adroddiad cynhwysfawr ac awdurdodol hwn.
“Mae hwn yn gyfraniad hanfodol i’n taith ddatganoli yng Nghymru, ac rwy’n annog Aelodau i’w gymeradwyo, ac i gymeradwyo’r cynnig sydd o’n blaenau ni heddiw.”
Erfyn ar Lafur i fod yn fwy uchelgeisiol
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, mae angen i Lafur ailfeddwl pen draw taith gyfansoddiadol Cymru, a bod yn fwy uchelgeisiol.
“Dwi’n erfyn arno fo [Mark Drakeford] a Llafur, eto, i fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer Cymru,” meddai.
“Beth mae’r adroddiad yn ei ddweud am annibyniaeth?
“Wel, mae o’n rhoi’r gallu yna i ni fod yn fwy uchelgeisiol.
“Ond, mae yna sylweddoliad yma o bwysigrwydd cael y sgyrsiau yma am ein dyfodol cyfansoddiadol ni, ac mae hynny’n rywbeth dw i’n ei groesawu.”
‘Diangen’ ac ‘anniogel’
Yn ôl Mark Isherwood, ni all y Blaid Geidwadol gefnogi rhoi mwy o bŵer i’r Blaid Lafur yng Nghymru drwy ddatganoli pellach.
“Er na ddylai’r setliad cyfansoddiadol esblygol yn ein Deyrnas Unedig gael ei bennu gan bolisïau a phersonoliaethau dros dro gwahanol lywodraethau ar unrhyw adeg, dylai a rhaid iddo gael ei adeiladu ar y sylfeini cadarn gaiff eu darparu gan ddemocratiaethau cynrychioliadol gyda rhwystrau a gwrthbwysau gweithredol.
“Fodd bynnag, mae’r diffyg democrataidd yng Nghymru yn dal yn fyw ac iach, gyda llawer dal ddim yn deall ble mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud, pwy sy’n gyfrifol, a faint o rym sydd gan Lywodraeth Cymru dros eu bywydau.
“Mae hyn yn parhau â natur unochrog gwleidyddiaeth Cymru, gan ganiatáu i Lywodraeth Lafur Cymru sy’n ‘gwybod orau’ osgoi atebolrwydd.
“Ar ôl 25 mlynedd mewn grym, dydy’r llywodraeth hon yng Nghymru ddim bellach yn credu bod hyn yn berthnasol iddyn nhw.
“Gobeithio y bydd deisebau torfol a phrotestiadau’r cyfnod diweddar yn newid hyn, ond oni bai a hyd nes y bydd yn gwneud hynny, ni allwn fentro canolbwyntio bellach ar roi pŵer yn eu dwylo.”