Stori luniau: Diwrnod olaf Mark Drakeford wrth y llyw

Fe fu’n ddiwrnod olaf prysur i Brif Weinidog Cymru cyn iddo drosglwyddo i’w olynydd Vaughan Gething

gan Elin Wyn Owen a Cadi Dafydd

Mark Drakeford yn paratoi at ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog olaf heddiw (Mawrth 19)

Mark Drakeford yng nghyfarfod olaf y cabinet

Llywodraeth Cymru

Bydd Vaughan Gething, Arweinydd newydd y Blaid Lafur, yn olynu Mark Drakeford ar cael cymeradwyaeth y Senedd fory

Fe wnaeth Cabinet Mark Drakeford gyfarfod am y tro diwethaf ddoe (Mawrth 18)

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi awgrymu y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn y cabinet wrth i’r arweinyddiaeth newid

Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, yn ystod y cyfarfod diwethaf

Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â phwy fydd yn cael lle yng nghabinet Vaughan Gething – fydd lle i Jeremy Miles, fu’n brwydro yn ei erbyn am yr arweinyddiaeth, a’i gefnogwyr?

Roedd Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol, yn un arall wnaeth gefnogi Jeremy Miles yn y ras.

Mark Drakeford yn ei sesiwn olaf o Gwestiynau’r Prif Weinidog

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, a Mark Drakeford yn ei seiswn olaf yn y Siambr fel Prif Weinidog

Un dadl olaf gydag Andrew RT Davies.

Mae sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog olaf Mark Drakeford wedi dod i ben, ac ar ôl cyflwyno’i araith olaf yn y Senedd fe fydd yn cyflwyno’i ymddiswyddiad i Frenin Lloegr heno (nos Fawrth, Mawrth 19).

Bydd ei olynydd, Vaughan Gething, yn dod yn Brif Weinidog fory (dydd Mercher, Mawrth 20), ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd.

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno enw Rhun ap Iorwerth i sefyll yn ei erbyn, fel mae hawl ganddyn nhw i’w wneud.

Ond mae gan y Blaid Lafur fwyafrif yn y Senedd ers i Rhys ab Owen gael ei wahardd, felly mae’n debyg y bydd enwebiad Vaughan Gething yn cael ei gymeradwyo.

Fe wnaeth Cabinet Mark Drakeford gyfarfod am y tro diwethaf ddoe (dydd Llun, Mawrth 18).

 

Bydd Vaughan Gething, arweinydd newydd Llafur Cymru, yn olynu Mark Drakeford pe bai’n cael cymeradwyaeth y Senedd fory (dydd Mercher, Mawrth 20).

 

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi awgrymu y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn y Cabinet wrth i’r arweinyddiaeth newid.

 

Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â phwy fydd yn cael lle yng nghabinet Vaughan Gething – a fydd lle i Jeremy Miles, tybed, a hwnnw wedi bod yn brwydro yn ei erbyn am yr arweinyddiaeth? A beth am gefnogwyr Jeremy Miles?

 

Roedd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, yn un o’r rhai wnaeth gefnogi Jeremy Miles yn y ras

 

Roedd Mark Drakeford mewn hwyliau da yng nghyfarfod olaf y cabinet.

 

… ac yn ystod ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog olaf…

 

Rhannodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Mark Drakeford eiliad bersonol ar ddechrau ei sesiwn olaf yn y Siambr yn Brif Weinidog.

 

Ond roedd amser am un ddadl olaf!