Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi traddodi ei araith ymddiswyddo yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 19).

Daw ei ymadawiad ar ôl pum mlynedd wrth y llyw, ac fe fydd yn cyflwyno’i ymddiswyddiad i Frenin Lloegr heno.

Yn dilyn pleidlais yn y Senedd fory (dydd Mercher, Mawrth 20), mae disgwyl i Vaughan Gething ei olynu.

Ond mae Plaid Cymru hefyd wedi cyflwyno enw Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog.

Mae gan Lafur fwyafrif o un yn y Senedd erbyn hyn, yn dilyn gwaharddiad Rhys ab Owen.

Araith olaf

“Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr,” meddai Mark Drakeford wrth agor ei araith.

“Yn hwyrach heno, byddaf yn cyflwyno fy ymddiswyddiad fel Prif Weinidog Cymru i’r brenin.

“Wrth i fi wneud y datganiad olaf hwn i’r Senedd, bydda i wedi bod yn siarad bron yn barhaus am brynhawn, ers i’r sesiwn ddechrau am 1.30yp.

“Bydda i wedi ymateb i’r FMQs diwethaf, ac wedi agor a chau fy nadl olaf fel Prif Weinidog.

“Dirprwy Lywydd, y cyngor i unrhyw berfformiwr o hyd yw eu gadael nhw’n dymuno cael mwy.

“Ar ôl y prynhawn yma, bydd pawb yma’n edrych ymlaen at glywed dipyn llai gen i, dw i’n siŵr o hynny.

“Cyn y Nadolig 2018 y siaradais i gyntaf fel Prif Weinidog yn y Siambr hon.

“Ar y pryd, roedden ni’n sicr yng nghanol llymder, ond roedd yn sicr yn amhosib darogan cyflwr di-baid o argyfwng roedden ni ar fin dechrau arno.

“Yn 2019, roedden ni’n wynebu’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, wedi’i ddilyn gan realiti Brexit â chytundeb gwael iawn.

“Wrth i 2020 wawrio, wynebodd Cymru ddinistr stormydd Ciara a Dennis, wedi’i ddilyn yn fuan iawn gan bandemig gostiodd eu bywydau i gynifer o bobol.

“Erbyn 2022, roedden ni’n wynebu rhyfel yn Wcráin, rhyfel ar ein ffiniau yma yn Ewrop.

“Ac erbyn 2023, rydyn ni wedi bod yn ymgiprys ag argyfwng costau byw a gwrthdaro yn y Dwyrain Canol sydd ym mlaenau ein meddyliau o hyd yn 2024.

“Ac mae’r cynnwrf rydyn ni wedi’i weld dramor yr un mor gryf â’r cynnwrf yn nes o lawer at adref.

“Yn y pum mlynedd dw i wedi bod yn Brif Weinidog, dw i wedi gweithio â phedwar Prif Weinidog, pum Canghellor y Trysorlys, chwe Changhellor Dugiaeth Lancastr, a dw i wedi colli cyfrif ar y gwahanol weinidogion is lawr y bu’n rhaid i ni ymdrin â nhw fel tîm gweinidogol.”

Ychwanega ei fod e wedi wynebu cwestiynau gan chwe arweinydd y gwrthbleidiau yn y Senedd, gyda’i gyfnod wrth y llyw yn cwmpasu etholiadau’r Senedd a Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Dywed ei fod e wedi defnyddio’i fandad i “wireddu’r addewidion wnaethon ni i bobol Cymru”, gan gadw cenedlaethau’r dyfodol mewn cof hefyd fel “egwyddor arweiniol” a gwneud penderfyniadau anodd “heddiw” er mwyn helpu’r “cenedlaethau i ddod”.

Wrth gyfeirio at benderfyniadau gafodd eu gwneud ynghylch ffordd liniaru’r M4, dywedodd mai’r “penderfyniad hawdd” fyddai bwrw ymlaen â’r cynllun.

“Roedd y lleisiau mwyaf pwerus mewn rhes o’i phlaid,” meddai.

“Fy mhenderfyniad, ar ôl treulio diwrnodau’n meddwl am y peth, oedd nad oedd er lles tymor hir Cymru.”

Wrth edrych ar y darlun mawr, dywedodd ei fod yn sosialydd, ac mai gwaith Llafur yw sicrhau bod y credoau hynny’n “berthnasol i Gymru heddiw”.

Fe ddiolchodd i holl Aelodau’r Senedd “am gadw gweinidogion ar eu traed ac yn eu lle”, sef yr ymgynghorwyr llywodraethol.

Wrth siarad am y flwyddyn ddiwethaf ar lefel bersonol, cyfeiriodd at y gefnogaeth iddo ar ôl colli Clare, ei wraig.

“I fi’n bersonol, y deuddeg mis diwethaf yw’r rhai mwyaf anodd a thrist yn fy mywyd,” meddai’n ddagreuol.

“Fydd pobol ddim yn gweld tu hwnt i’r Siambr y gweithredoedd bychain o garedigrwydd bob dydd gan bobol ym mhob rhan o’r Siambr hon sy’n helpu rhywun drwy’r amserau anodd iawn hynny.”

Er bod anghytuno rhyngddyn nhw fel gwleidyddion bob dydd, dywedodd fod pob un ohonyn nhw “bob amser ymhlith ffrindiau a phobol sy’n deall gofynion y swyddi rydyn ni’n eu gwneud, a’r pethau bychain sy’n gwneud y fath wahaniaeth”.

Dywedodd fod y diolch mwyaf i bobol Cymru, gan gyfeirio at y profiad o ymweld â chymuned Aberfan yn 2021.

Yno, meddai, clywodd am brofiadau Syr Mansel Aylward, oedd yn feddyg ifanc ar y pryd yn helpu’r ymdrechion i achub pobol.

Ar y diwrnod hwnnw, clywodd hefyd brofiadau dwy ddynes a “theimlo hanes Cymru’n adleisio, y solidariaeth a’r dioddefaint”.

Dywedodd fod Aberfan yn ein hatgoffa o “bwy ydyn ni” ac yn ein dysgu “i fyw yn y byd heddiw” a helpu ein gilydd fel cenedl.

Cwestiynau’r Prif Weinidog am y tro olaf

Yn gynharach heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 19), cynhaliodd Mark Drakeford Gwestiynau’r Prif Weinidog am y tro olaf yn y Senedd.

Fe siaradodd am safle Cymru yn y byd fel cenedl “hyderus ei hunaniaeth” ac sy’n groesawgar.

Wrth drafod un o’i brif heriau wrth arwain y genedl drwy’r pandemig Covid-19, dywedodd ei fod yn credu y bydd llywodraethau’r dyfodol yng Nghymru yn fwy parod pe bai’n digwydd eto.

Wrth gael ei holi am Lafur fel plaid lywodraeth, dywed na fydd y Blaid Lafur fyth yn cymryd pleidleisiau’n “ganiataol”, er eu bod nhw wedi bod mewn grym ers dechrau datganoli, ac fe wnaeth e ganmol “gwleidyddiaeth aeddfed, adeiladol” Cymru.

Un o bolisïau mwyaf dadleuol ei lywodraeth, heb amheuaeth, yw cyflwyno’r terfyn cyflymder 20m.y.a.

Ond fe ddywedodd Mark Drakeford ei fod yn “hynod falch” o’r polisi, gan roi Cymru ar flaen y gad.

Er bod ei olynydd Vaughan Gething dan y lach, dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ei gefnogi o’r meinciau cefn.

Cafodd e gymeradwyaeth Aelodau’r Senedd wrth i’r sesiwn ddod i ben.

Teyrngedau’r gwrthbleidiau

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo fe mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n dweud bod y ddau “yn tynnu ymlaen yn dda”, er eu bod nhw wedi “mwynhau ymrysonau tanllyd dros y blynyddoedd”.

“Ond mae angen hynny er mwyn i’n democratiaeth weithio,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn “dymuno’n dda” iddo ar gyfer y dyfodol.

“Tra bo gennym ni safbwyntiau gwahanol iawn ynghylch sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu, dw i erioed wedi amau ymrwymiad Mark i wasanaeth cyhoeddus nac i Gymru,” meddai mewn datganiad.

Dywed fod gwleidyddion yn “aberthu amser gwerthfawr gydag anwyliaid a ffrindiau gan ein bod ni i gyd yn credu mewn adeiladu dyfodol gwell, hyd yn oed os oes gennym ni safbwyntiau gwahanol ynghylch sut i sicrhau’r dyfodol hwnnw”.

“Mae Mark wedi aberthu cryn dipyn i wasanaethu Cymru, nid yn unig fel Prif Weinidog, ond mewn nifer o rolau eraill cyn hynny,” meddai wedyn.

“Gobeithio y bydd Mark yn parhau i gyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru, lle mae ganddo fe gymaint i’w gynnig o hyd.”

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi teyrnged iddo:

Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, hefyd wedi talu teyrnged bersonol iddo.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r Prif Weinidog am ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad i Gymru drwy gydol ei bum mlynedd yn y rôl,” meddai.

“Ar lefel bersonol, dydy Mark ddim ond wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi drwy gydol fy amser yn y Senedd, ac am hynny byddaf yn fythol ddiolchgar.”