Bydd mwy o arfordir Cymru’n cael ei amddiffyn rhag niwed llygredd sigaréts gyda’r traethau di-fwg cyntaf yn y gogledd yn cael eu sefydlu ar Ynys Môn o heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 19).
Mae traethau Benllech ar ddwyrain yr ynys, a Threarddur ar orllewin yr ynys, bellach yn ddi-fwg.
Bydd gofyn i bobol leol, ymwelwyr a thwristiaid gefnogi’r fenter drwy ddewis peidio ysmygu ar y traethau hyn.
Bonion sigaréts yw’r eitem sbwriel gaiff eu taflu fwyaf yn y byd, ac maen nhw’n fygythiad i’r amgylchedd morol.
Dros amser, bydd pob bonyn yn torri i mewn i ddarnau o ficroblastigau, gan ryddhau cemegau gwenwynig gan gynnwys plwm, arsenig a fformaldehyd i’r ecosystem forol fregus a chyrsiau dŵr.
Ond dydy’r cynllun ddim yn cael ei groesawu gan bawb, gydag un yn dweud ei fod yn “syniad sydd heb gael ei ystyried yn dda iawn”.
87% o bobol leol yn cefnogi traethau di-fwg
Cyn penderfynu symud ymlaen gyda’r cynllun hwn, fe gynhaliodd ASH Cymru arolwg barn blynyddol, gan fanteisio ar y cyfle i holi barn am draethau di-fwg.
Roedd chwech ym mhob deg o bobol wnaeth ymateb yn cefnogi cyflwyno traethau di-fwg.
Cynhaliodd yr elusen arolwg barn ymysg trigolion Môn trwy’r Cyngor Sir hefyd.
Dywedodd 87% o bobol leol ac ymwelwyr wnaeth ateb eu bod nhw’n cefnogi traeth di-fwg.
“Bonion sigaréts yw un o’r eitemau sy’n cael eu taflu ar lawr fel sbwriel fwyaf yng Nghymru,” meddai Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru, wrth golwg360.
“Maen nhw ym mhobman – maen nhw ar ein strydoedd, maen nhw’n mynd mewn i’n dyfrffyrdd.
“Ein nod yw sicrhau ein bod yn gwneud amgylcheddau di-fwg sy’n gyfeillgar i blant – traethau, parciau, meysydd chwarae.
“Mae yna ddeddfwrfa yn gwarchod rhai o’r ardaloedd hyn ond mae traethau yn un o’r meysydd hynny sydd heb amddiffyniad deddfwriaethol, felly dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno gwaharddiad gwirfoddol.
“Mae gennym ni draethau di-fwg yn ne Cymru ond roedden ni’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni ddod i fyny i ogledd Cymru a gwarchod yr ardal yma o harddwch hyd yn oed ymhellach.”
‘Ddim yn rywbeth fydd yn gallu cael ei orfodi na’i blismona’
Yn ôl y Cynghorydd Neville Evans, sy’n gwarchod Hamdden, Twristiaeth a Morwrol ym Môn ac sydd hefyd yn gyn-ysmygwr, fydd y cynllun ddim yn gallu cael ei orfodi na’i blismona.
“Y syniad tu ôl iddo, wrth gwrs, ydy trio annog pobol i beidio ysmygu ar y traethau, oherwydd bod hynny, nid yn unig o fudd i’r amgylched, ond i’w hiechyd eu hunain,” meddai wrth golwg360.
“Tydi o ddim yn rhywbeth fydd yn gallu cael ei orfodi a’i blismona, ond rydan ni’n gobeithio y bydd pobol yn gweld budd o gael traethau di-fwg ac yn gwneud o ewyllys da i beidio ysmygu ar y traethau yma.
“Wrth gwrs, mi fydd yna rai fydd yn gwrthwynebu ond dw i’n ddigon hen i gofio cael ysmygu mewn tafarndai a dw i’n siŵr y bysa neb yn dymuno mynd yn ôl i sefyllfa felly.
“Mae hyn jest yn syniad i drio cael pobol i sylweddoli effeithiau ysmygu.
“Dw i’n gobeithio y bydd pobol yn gweld yr ochr bositif i’r amgylchedd ac i’w hiechyd eu hunain.
“Mae yna fudd personol i hyn, ac mae yna fudd cymdeithasol ac amgylcheddol.”
‘Gobeithio y bydda i’n dod yma mwy rŵan’
Bu disgyblion o Ysgol Corn Hir ac Ysgol Syr Thomas Jones yn ymweld â thraeth Benllech fore heddiw, er mwyn dysgu mwy am effaith sbwriel ar draethau, ac i helpu i gasglu sbwriel.
Mae Max o Ysgol Gynradd Corn Hir yn Llangefni yn gobeithio y bydd yn cael ymweld â’r traeth fwy yn dilyn y lansiad.
“Mae yna lot o ddarnau bach o sbwriel a phlastig ar y traeth sy’n gallu cael eu tynnu i mewn gan y tonnau, ac mae hyn yn gallu brifo creaduriaid y môr,” meddai wrth golwg360.
“Os ydyn nhw’n stopio rhoi’r bonion sigaréts i gyd ar y traeth, bydd o’n gwneud i fwy o bobol ddod yma i gael hwyl a phicnics a phethau efo’u teulu nhw.
“Gobeithio y bydda i’n dod yma mwy rŵan.”
‘Syniad sydd heb gael ei ystyried yn dda iawn’
Mae rhai wedi gwrthwynebu’r cynllun, gan ddweud eu bod yn poeni am yr effaith ar fusnesau lleol.
Ymhlith y rhain mae dyn lleol oedd wedi clywed am y cynllun wrth ymweld â’r traeth heddiw, ac sy’n poeni nad yw’r arwydd ar y traeth yn rhoi digon o wybodaeth.
“Rwy’n credu ei fod yn syniad sydd heb gael ei ystyried yn dda iawn,” meddai’r dyn, sy’n dymuno aros yn ddienw, wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl bod yr egwyddor yn neis, ond dydy o ddim yn mynd i allu cael ei blismona, a dw i’n gallu gweld o’n effeithio ar fusnesau lleol achos mae pobol yn mynd i gerdded i ffwrdd o’r traeth pan maen nhw’n gweld mai traeth di-fwg ydy o.
“Mae’r caffis yn mynd i golli cymaint o fusnes.
“Mae hefyd yn ymrannol ac o bosib yn ymfflamychol, oherwydd dim ond y pennawd fydd pobol yn ei ddarllen: ‘Mae hwn yn draeth di-fwg’.
“Mae’n mynd i achosi dadleuon ar y traeth, gallaf weld hynny’n digwydd.
“Gallen nhw fod wedi gwneud y pennawd yn addysgiadol,” meddai wrth dynnu sylw at arwydd ar draeth Benllech.
“Gallan nhw fod wedi dweud: ‘Wyddoch chi ei bod hi’n cymryd llawer o flynyddoedd i ddiwedd sigaréts bydru? Oeddech chi’n gwybod bod miloedd o docsinau mewn pen sigarét?’
“Mae’n rhaid i chi wneud i bobol feddwl ychydig, a’u perswadio nhw i beidio cael sigarét ar y traeth.
“Rwy’n credu y gallai fod wedi cael ei drin yn llawer gwell nag y mae wedi bod.”
Rhyddid i ddewis
“Dydw i ddim yn ysmygu, ond beth ddigwyddodd i ryddid dewis?” gofynnodd un ar Facebook wrth ymateb i’r statws newydd.
“Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn golygu y dylai’r ysmygwyr godi ar ôl eu hunain.
“Ond gall yr hyn a elwir yn ‘nanny state‘ fynd yn rhy bell.”
“Byddai’r arian wedi’i wario’n well ar gael mwy o finiau a gorfodi dirwyon am ollwng sbwriel yn fy marn i,” meddai un arall.